Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Mehefin 2011
Karen Owen

Y fwyell i ddsigyn o Lundain

MAE angen sefydlu Cyngor Darlledu newydd sbon ar gyfer Cymru – corff a fyddai’n edrych ar ôl buddiannau Radio Cymru, Radio Wales ac S4C mewn cyfnod ariannu anodd, ac a fyddai’n cael gwared ar y cwffio a’r cecru sy’n digwydd rhwng y darlledwyr unigol ar hyn o bryd.

Un o gynhyrchwyr mwyaf profiadol BBC Cymru sy’n gwneud yr alwad, wrth ddatgelu wrth Y Cymro hyd a lled yr ofnau sy’n llethu gweithwyr y Gorfforaeth yng Nghymru ers cyhoeddi dogfennau trafod ynglŷn â thoriadau o 20% yng nghyllid y BBC ar draws gwledydd Prydain.

Mae’n dweud nad ydi’r rhan fwyaf o bobol gyffredin, sy’n edrych o’r tu allan ar y BBC, yn llwyr ymwybodol o’r ffordd giaidd y bydd bwyell Llundain yn syrthio ar wasanaethau ‘cenedlaethol’ yr ochr yma i Glawdd Offa.

Dydyn nhw chwaith, meddai’r cynhyrchydd, ddim yn deall pa mor ddiymadferth ydi uwch-reolwyr Cymru yn y broses o arbed arian sydd bellach ar waith gan Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Mae o eisoes wedi ffurfio pwyllgorau ‘genre’ (mathau o raglenni) Prydeinig er mwyn edrych ar sut y gellid torri’n ôl – er enghraifft, mae pwyllgor bob un ar gyfer y genres Radio, Materion Cyfoes, Chwaraeon a Newyddion.

Mae hynny’n golygu mai:

- Nid rheolwyr yng Nghymru fydd yn penderfynu sut y bydd y BBC yn torri’n ôl 20% ar yr arian y maen nhw’n ei wario ar raglenni, gwasanaethau a swyddi;

- Fydd gorsaf Radio Cymru ddim yn cael gwybod tan ddiwedd y flwyddyn eleni faint yn union fydd siwtiau Llundain yn ei dorri ar ei chyllid, nac ymhle – bydd y pwyllgor ‘Radio’ canolog yn Llundain yn edrych ar holl orsafoedd gwledydd Prydain ac yn gwneud y toriadau o-bell;

- Newydd gael clywed y mae gweithwyr Radio Cymru eu bod nhw “eisoes” yn rhan o doriad o 10% ar draws gwledydd Prydain nad oedden nhw’n ymwybodol ohono fo – dyna oedd y rheswm tros ddiflaniad rhaglen foreol (5-7) Rebecca;

- Yn ôl cynhyrchwyr eraill sydd wedi mynegi eu pryderon wrth Y Cymro, fe fyddai torri 20% ar ben y 10% sydd eisoes yn digwydd, yn lladd y gwasanaeth radio Cymraeg cenedlaethol. “Fydd o’n ddim mwy na chyfres o gyflwynwyr â’u rhaglenni pedair neu bump awr yr un, yn troelli disgiau ac yn cynnal ambell i sgwrs ffôn,” meddai un wrth Y Cymro;

- Ac roedd un rheolwr Llundeinig hyd yn oed wedi awgrymu y gallai Radio Cymru a Radio Wales “rannu’r un gwasanaeth ar ôl chwech o’r gloch y nos”, a hynny heb ddeall fod yna ffasiwn beth â darlledu yn yr iaith Gymraeg yn digwydd am 18 awr y dydd rhwng 92 a 105FM.

Llun: Mark Thompson

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |