Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Awst 2016

Ocsiwn addewidion er budd elusen Mind a’r Gymraeg

MAE merch o Aberystwyth wedi penderfynu mynd ati i drefnu digwyddiad i godi arian tuag at ddau achos sy’n agos iawn at ei chalon.

Ar ôl dioddef cyfnod o iselder ar ôl genedigaeth ei hail blentyn, mae Hawys Haf Roberts wedi mynd ati i drefnu ocsiwn addewidion i godi arian. 

Bydd hanner yr elw sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Mind Aberystwyth, elusen sydd yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn cynnig cymorth i’r rheiny sydd yn dioddef. 

Bydd hanner arall yr elw yn mynd tuag at Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Yn ôl Hawys mae hi’n gweld gwaith gwerthfawr yn cael ei wneud gan y Gymdeithas hon wrth iddynt ymdrechu i sicrhau tegwch i’r iaith Gymraeg a’i siaradwyr.

Mae Hawys wedi ei chyffwrdd gan haelioni y rhai sydd wedi rhoi eitemau i’w harwerthu – yn addewidion, gwasanaethau a nwyddau.

O wersi cynganeddu i sesiwn ffotograffiaeth, o wersi clocsio i bobi cacen, o wasanaeth gan delynores i swmddio bag o ddillad. 

Yn ogystâl â’r rhain mae eitemau fel gwaith wedi’u fframio gan Wyn Melville Jones a Lizzie Spikes, plât gan Buddug Humphreys, pâr o glustogau carthen Gymreig gan Glesni Haf o Grefftau’r Bwthyn, tê prynhawn a noson i ddau yng ngwesty’r Cliff yn Aberteifi, gwyliau teuluol yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog gwerth £450 a chrys pêl-droed Cymru wedi’i arwyddo gan Joe Allan.

Bydd yr ocsiwn yn digwydd ar nos Wener, 9 Medi yn Llety Parc, Aberystwyth, i ddechrau am 7yh. 

Glan Davies o Aberystwyth fydd yr arwerthwr ac adloniant gan Bois y Fro. Mae mynediad i’r digwyddiad am ddim. 

Mae rhestr lawr o’r 52 o eitemau fydd ar werth i’w gweld ar wefan Cymdeithas yr Iaith: http://www.cymdeithas.cymru/digwyddiadau/ocsiwn

Mae hefyd modd rhoi’ch cynigion o flaen llaw wrth ei hanfon at: bethan@cymdeithas.cymru 

Dywedodd Hawys Haf Roberts: “Roedd y misoedd yn dilyn genedigaeth Beca yn anodd iawn.

“Ro’n i’n teimlo’n anobeithiol, yn rhwystredig ac yn llawn euogrwydd.

“Dwi mor ddiolchgar i fy nheulu a’m ffrindiau am fy nghynorthwyo drwy’r cyfnod hwnnw.

“Dwi’n teimlo bod na ddiffyg dealltwriaeth o iechyd meddwl yn gyffredinol, ac mae Mind yn gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn y gymuned i estyn allan at bobl sydd angen cymorth. “

Ychwanegodd: “Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn rhan anatod o’m mywyd i.

“Ni allaf bwysleisio mor hanfodol yw hi i ni allu magu ein plant yn y Gymraeg, ac mae cael byw bywyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn hynod bwysig i ni.”

Ychwanegodd: “Mae codi arian yn galluogi Cymdeithas yr Iaith i gynnal y gwasanaethau a’r gefnogaeth y mae’n ei gynnig yn ein cymuned ni yma yng Ngheredigion a ledled Cymru.

“Mae gwaith y Gymdeithas yn ymestyn i bob math o feysydd fel addysg, cynllunio cymunedol a hawliau’r iaith a’i siaradwyr.”

Llun: Hawys Haf Roberts

Rhannu |