Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Awst 2016

Tystiolaeth feddygol yn cael ei anwybyddu yn rheloadidd gan y DWP yn ôl Hywel Williams

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon ac Arweinydd y Blaid yn San Steffan, Hywel Williams yn dweud fod nifer cynyddol o bobl sâl ac anabl yn ei etholaeth yn wynebu toriadau annheg i’w budd-daliadau gan y DWP, gan gyhuddo’r cwmni sy’n gyfrifol am weinyddu cynllun WCA ‘Work Capability Assessment’ y Llywodraeth o anwybyddu tystiolaeth feddygol sy’n profi anabledd hawlwyr. 

Cyhuddodd yr Aelod Seneddol y DWP a Capita o ddangos y math gwaetha o ddifaterwch; y math sy’n gadael y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn teimlo ar eu hisaf, yn cael eu siomi dro ar ôl tro gan system esgeulus a diffygiol. 

Meddai: “Mae gen i achosion yn bron pob cymhorthfa o bobl sydd yn amlwg yn sâl neu'n anabl yn cael eu cysidro fel bod yn ffit i weithio.

"Mae hyd yn oed tystiolaeth feddygol gan feddygon teulu ac Ymgynghorwyr yn cael ei ddiystyru ynghyd a synnwyr cyffredin.

“Mae'n anhygoel meddwl bod pobl sydd â chlefydau sy'n cyfyngu eu bywydau neu bobl sydd â chyflyrau sydd fyth am wella gydag amser yn cael eu targedu gan y Llywodraeth ac yn dioddef proses asesu wallus a digyfaddawd.

“Mae llawer o'r penderfyniadau annheg hyn yn cael eu gwrthdroi ar apêl.

"Mae hyn i'w groesawu fel y cyfryw. Ond mae'n dangos bod gormod llawer o'r penderfyniadau gwreiddiol yn wael neu'n anghywir, sydd yn y pen draw yn bwrw amheuaeth uniondeb y system.

“Mae'r profion sy’n cael eu defnyddio yn awr yn edrych yn rhy debyg i dicio blychau. Os nad ydych yn gofyn y cwestiynau iawn rydych yn tueddu i gael y canlyniad anghywir.

“Mae asesiadau budd anabledd yn ddiffygiol tu hwnt, gyda phenderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud yn ddyddiol gan achosi miloedd o bobl i ddioddef yn emosiynol ac yn ariannol.

"Mae eu salwch neu anabledd yn cael ei waethygu gan system sy'n ymddangos fel rhoi blaenoriaeth i gyrraedd cwota gwrthodiadau a rhoi elw'r cwmni asesu o'r sector breifat cyn hawliau sylfaenol pobl.

“Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau o dan reolaeth y llywodraeth yn Llundain. Polisi Plaid Cymru yw datganoli gwaith o ddydd i ddydd y DWP i Lywodraeth Cymru a dychwelyd asesu i'r sector cyhoeddus.” 

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian: “Mae hyn yn ganlyniad i newidiadau i’r wladwriaeth les gan y Torïaid.

"Ond wrth gwrs, nid diwygio yw hyn ond datgymalu’r system oherwydd eu bod yn ideolegol wrthwynebus iddo gyda’r bobl mwyaf bregus yn dioddef waethaf.

"Dylai Ceidwadwyr Cymru dynnu sylw eu Llywodraeth yn San Steffan i sefyllfaoedd fel hyn yn hytrach na chodi bwganod am ddyfodol ein Cynulliad Cenedlaethol.”

Rhannu |