Mwy o Newyddion
Blwyddyn lwyddiannus arall i Brifysgol Haf Aberystwyth
A hithau’n rhedeg ers un flwyddyn ar bymtheg, unwaith eto mae Prifysgol Haf Aberystwyth wedi profi’n haf difyr, ysbrydoledig a diwyd i’r staff a’r myfyrwyr.
Mae’r Brifysgol Haf yn rhaglen bwysig o ran ehangu mynediad, gan ddenu pobl ifanc o bob rhan o Gymru ynghyd i brofi bywyd prifysgol ac astudio pynciau academaidd o’u dewis nhw. ‘Graddiodd’ carfan o 78 o bobl ifanc eleni mewn seremoni fawreddog i ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau ddydd Gwener 26 Awst.
O ran llefydd yn y Brifysgol Haf, rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n byw neu’n mynychu ysgol/coleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru, neu sy’n dod o gefndir gofal/gadael gofal.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i bobl ifanc a fyddai’r cyntaf o’u teulu i fynd i brifysgol, rhai sydd ag anabledd neu salwch tymor hir, rhai o grŵp ethnig sy’n cael ei dangynrychioli, rhai sy’n dymuno astudio pwnc lle mae un rhyw wedi’i thangynrychioli, neu rai sydd wedi profi digwyddiad trawmatig sydd wedi effeithio ar eu haddysg.
Mae’r rhaglen chwe wythnos o ddarlithoedd, ymchwil a chyflwyniadau’n caniatáu i fyfyrwyr sicrhau addysg sylfaenol mewn sgiliau allweddol fel ymchwilio academaidd, ysgrifennu a chyflwyno; astudio modiwlau academaidd o amrywiaeth eang o bynciau o Gemeg i Ysgrifennu Creadigol, o Ffiseg i Athroniaeth; a chymryd rhan mewn rhaglen lawn o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol.
Yn ôl Dr Debra Croft, Rheolwr Canolfan Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ehangu Mynediad, Cydraddoldeb a Chynhwysiad Cymdeithasol, sy’n trefnu’r Brifysgol Haf, cryfder y rhaglen yw ei bod yn adlewyrchu bywyd prifysgol mor realistig â phosibl.
“Mae gan y myfyrwyr chwe wythnos gyfan i brofi bywyd prifysgol, addasu i’r profiad o fyw i ffwrdd o gartref, y pwysau cyfunol o waith academaidd a therfynau amser, chwaraeon a gweithgareddau. Maen nhw’n dysgu sgiliau trefnu a rheoli amser, sydd yn eu galluogi i fwynhau amserlen lawn o weithgareddau ar y campws ac yn yr ardal leol.”
“Dyw’r cymorth rydyn ni’n ei gynnig i’r bobol ifanc hyn ddim yn dod i ben pan fyddan nhw’n cwblhau’r Brifysgol Haf. Rydyn ni’n parhau i gysylltu â’r myfyrwyr, gan eu cynorthwyo gyda’u datganiadau personol, geirda, cefnogaeth, cyngor ac arweiniad o bob math.
“O edrych ar y myfyrwyr sydd wedi cwblhau Prifysgol Haf Aberystwyth ers 2012, mae tua 85% wedi mynd ymlaen yn llwyddiannus i Addysg Uwch.”
Un o’r rhai a gwblhaodd y Brifysgol Haf yn llwyddiannus eleni oedd Karlie Griffin sy’n 17 oed ac yn mynychu coleg ym Mhort Talbot.
Roedd Karlie’n wirioneddol werthfawrogi’r cyfle i brofi bywyd Prifysgol.
Dywedodd: “Cyn i mi ddod yma roeddwn i’n ansicr a oeddwn i am fynd i Brifysgol, ond mae hyn wedi gwneud i mi sylweddol efallai fod y Brifysgol yn addas i fi wedi’r cyfan.
"Dros y chwe wythnos ddiwethaf rwyf i’n teimlo bod fy hyder wedi tyfu llawer. Rwyf i’n fwy allblyg, ac wedi dangos nodweddion nad oeddwn i’n gwybod oedd gennyf i.”
Roedd Emmanuel Ricalde, 17 oed, sy’n mynychu coleg yng Nghaerdydd, wrth ei bodd gyda’r Brifysgol Haf.
Ar ôl manteisio ar y cyfle i astudio cyrsiau mewn Mathemateg, Ffiseg a Chelf, dywedodd Emmanuel: “Mae Prifysgolion eraill yn trefnu Prifysgolion Haf ond maen nhw’n fyrrach o lawer.
"Gan fod Prifysgol Haf Aberystwyth yn chwe wythnos, mae’n golygu y gallwch ddysgu mwy, cael mwy o amser i ddod i adnabod pobl eraill a gwneud ffrindiau, ac rydych chi’n cael teimlad gwirioneddol o fywyd Prifysgol.”
Mae’r Brifysgol Haf hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr presennol o Brifysgol Aberystwyth weithio fel Arweinwyr Myfyrwyr.
Fel yr eglura Dr Debra Croft: “Nid yn unig mae o fudd i'r bobl ifanc sy'n astudio gyda ni, ond mae hefyd yn rhoi profiad go iawn i'n tîm ni o Arweinwyr Myfyrwyr wrth iddyn nhw gynorthwyo gyda gofal bugeiliol a chydlynu chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar y cwrs.
"Mae'r Arweinwyr yn fyfyrwyr cyfredol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu lefel uchel o gymhelliant a gofal i'r myfyrwyr haf - rhai ohonynt nad ydynt wedi aros oddi cartref o'r blaen. Mae'r cyfle hwn yn eu galluogi i hogi eu sgiliau a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth."
Un o’r Arweinwyr Myfyrwyr eleni oedd Amelia Sellers. Cwblhaodd Amelia ei hun y Brifysgol Haf yn 2013. Daeth i Aberystwyth i astudio gradd mewn celf gain y flwyddyn ganlynol, ac mae ar fin dechrau ar ei blwyddyn olaf.
Roedd Amelia yn falch iawn i weithio fel arweinydd myfyrwyr gan fod hyn yn gyfle iddi roi rhywbeth yn ôl: “Roedd y Brifysgol Haf yn brofiad rhyfeddol i fi.
"Mae’n anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
"Tyfodd fy hyder a newidiais i gymaint fel person drwy wneud y Brifysgol Haf, ac roedd fy arweinydd myfyrwyr i’n rhagorol.
"Rwy’n credu bod yr arweinwyr myfyrwyr yn syniad ardderchog oherwydd mae’n cynnig cymorth i bobl sy’n gwneud y Brifysgol Haf, i’w helpu i drawsnewid at fod yn fwy annibynnol.”
Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield
Roedd seremoni ‘raddio’ y Brifysgol Haf hefyd yn cydnabod gwaith y saith myfyriwr ar Leoliad Ymchwil Sefydliad Nuffield sydd wedi treulio eu haf yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynigir Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield i fyfyrwyr Blwyddyn 12. Mae’r cynllun, sy’n cael ei gydlynu yng Nghymru gan Techniquest, yn helpu myfyrwyr i sicrhau profiad yn ystod eu gwyliau haf mewn diwydiant neu sefydliadau ymchwil gyda phrosiectau Gwyddoniaeth Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Un o’r saith myfyriwr ar Leoliad Ymchwil Sefydliad Nuffield eleni yw Eda Rhianwen, sy’n astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Astudiaethau Crefydd a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol John Bright yn Llandudno.
“Bu’n brofiad rhyfeddol,” meddai Eda. “Dwi wedi gweithio gydag aelodau eraill o staff ar amrywiaeth o waith labordy fel dethol a chlonio darnau o DNA a’u trawsnewid yn gelloedd E.coli.
"Mae’n wych meddwl fy mod i wedi helpu ar brosiectau fydd yn helpu i newid y dyfodol. Rwyf i wedi meddwl yn aml am fod yn wyddonydd ymchwil pan fyddaf i’n hŷn, ond mae’r lleoliad hwn wedi gwneud i mi sylweddoli mai hwn yw’r math o waith rwyf i am ei wneud yn bendant.”