Mwy o Newyddion
Cyffro yn Y Bala wrth i ddatblygiadau’r cae 3G fwrw ‘mlaen
Mae gwaith yn bwrw ymlaen yn dda ar ddatblygu safle Cae 3G newydd Y Bala.
Yn ddiweddar, aeth rhai o aelodau Clwb Pêl-droed Tref Y Bala, Cyngor Gwynedd a chynrychiolaeth ar ran ysgolion Y Bala draw i gael gweld sut mae’r cynllun yn dod yn ei flaen.
Disgwylir i’r gwaith o osod yr arwyneb 3G synthetig newydd ar Faes Tegid gael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf, gyda’r agoriad swyddogol yn dilyn yn fuan yn nhymor yr Hydref.
Mae’r cynllun arloesol hwn yn cael ei gyd-ariannu gan Gyngor Gwynedd a Chymdeithas Pêl-Droed Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Braf iawn yw gweld y cae 3G yn dod yn ei flaen mor dda.
"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i gymuned ac ysgolion dalgylch Y Bala ac yn un sy’n sicrhau cyfleoedd ac adnoddau o ansawdd i ddisgyblion yn ystod oriau ysgol ac i ddefnyddwyr Clwb Pêl-droed Tref Y Bala a chlybiau eraill yn yr ardal.”
Yn ogystal â’r buddsoddiad o £10 miliwn i sefydlu Campws Dysgu 3-19 newydd ar leoliad presennol Ysgol y Berwyn, bydd llyfrgell, sinema gymunedol a’r cae 3G ar gael fel gwasanaethau cymunedol i’r Bala a’r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy’n cynrychioli’r Bala ar Gyngor Gwynedd: “Mae’r cyfnod cyffrous yn parhau ar gyfer ardal Penllyn a phleser yw cael bod yn rhan o’r daith fydd yn helpu i siapio datblygiad y Campws a’r cyfleusterau cymunedol ychwanegol fydd yn adnodd, nid yn unig i ddisgyblion yr ardal, ond hefyd i drigolion y gymuned gyfan.
"Mae’n hanfodol fod bobl ifanc sydd wedi’u hysbrydoli yn sgil llwyddiant diweddar y tîm cenedlaethol, a chlwb pêl-droed Bala, yn medru cael mynediad at adnoddau ac offer addas, yn enwedig mewn ardal wledig.”
Mae’r cae 3G wedi’i gynllunio i ddarparu cyfleusterau o safon uchel beth bynnag yw ansawdd y tywydd.
Mae Meirionnydd, ac yn enwedig ardal y Bala, yn derbyn glaw trwm yn flynyddol.
Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwella’n arw'r gallu i gynnal chwaraeon trwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Clwb Pêl-droed Tref Y Bala, Nigel Aykroyd : “Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gydag Adran Addysg Cyngor Gwynedd gan annog holl blant ysgolion yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff i ddatblygu eu sgiliau pêl-droed. Edrychaf ymlaen i Bala Juniors a thîm pêl-droed yr ysgol gael gwneud defnydd helaeth o’r cae newydd.”
Llun: Cynrychiolwyr o Glwb Pêl-droed Tref Y Bala, Cyngor Gwynedd ac ysgolion Y Bala yn ymweld â chae Maes Tegid