Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Awst 2016

Leanne yn cyhuddo amheuwyr datganoli o ddangos diffyg ffydd yng Nghymru

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi beirniadu gwleidyddion o Gymru sydd wedi mynegi amheuaeth dros ddyfodol datganoli yn y dyddiau diwethaf yn sgil y bleidlais i adael yr UE.

Dywedodd Leanne Wood fod amheuwyr datganoli yn arddangos diffyg ffydd yng Nghymru a'i bod hi'n credu fod Brexit yn cryfhau'r achos o blaid grymuso'r Cynulliad Cenedlaethol, gan bwysleisio nad oedd y bleidlais yn cyfiawnhau canoli grym yn Llundain.

Meddai: "Mae gormod o bobl yn y genedl hon sydd yn barod i honni nad yw Cymru'n ddigon da, ac y byddai San Steffan yn ein llywodraethu'n well na ni. Rwy'n gwrthod yr agwedd hon.

"Roedd canlyniad refferendwm yr UE i fod am bobl yn cymryd rheolaeth unwaith eto. Am sofraniaeth. Rhan o'r broblem gyda'n Cynulliad yw ei ddiffyg pwerau. Mae gennym broblemau niferus yng Nghymru a nid oes gennym y grymoedd na'r llywodraeth gymwys, uchelgeisiol sydd ei angen i'w datrys.

"Mae Brexit yn cynnig cyfle i genhedloedd gymryd mwy o rym a chyfrifoldeb gan y Deyrnas Gyfunol.

"Dangosodd canlyniad y refferendwm sut y mae rheolaeth San Steffan wedi gadael nifer o gymunedau ar ol.

"Ni ddylai hyn gael ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel pleidlais i ganoli mwy o rym yn San Steffan.

"Bydd datganoli, ac felly Cymru, yn llwyddo os yw pob plaid yn dangos hyder yn ein gwlad a gallu pobl Cymru i gyflawni.

"Credaf yn gryf y byddwn yn gwneud yn well drwy lywodraethu ein hunain na all San Steffan fyth wneud.

"Byddai rhoi mwy o bwerau a chyfrifoldebau i Gymru yn sicrhau gwell craffu o Lywodraeth Lafur Cymru, am y byddai llai o sgop i San Steffan gael y bai am y methiant i ddarparu gwasanaethau.

"Ni ddylai unrhyw genedl gyda hunan-barch ofni neu fod a chywilidd o hunan-lywodraeth.

"Mae'n ddigalon gweld agweddau mor negyddol gan rai o blith gwleidyddiaeth Cymru.

"Byddai ein cenedl yn elwa pe bai pleidiau eraill yn mabwysiadu'r agwedd gadarnhaol sydd gan Blaid Cymru tuag at ein gwlad."

 

Rhannu |