Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn annog Llafur i gael gafael ar bethau neu wynebu colli gwasanaethau cyhoeddus
Mae Hywel Williams AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, heddiw wedi cyhuddo’r blaid Lafur o fod yn ‘anweledig’ wrth i lywodraeth Geidwadol y DG fygwth y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr gyda thoriadau pellach.
Dywedodd Mr Williams fod rhaniadau chwerw a gornest arweinyddol Llafur yn golygu fod y blaid ar chwal yn llwyr ac yn methu yn ei rôl fel y brif wrthblaid, gan alluogi’r Torïaid i wneud difrod i wasanaethau cyhoeddus.
Ychwanegodd fod rhaid i lywodraeth y DG amlinellu a fyddai’r cynlluniau ar gyfer yr NHS yn Lloegr yn cael effaith ar Gymru ac os felly, sut.
Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru dros Arfon: “Mae’r newyddion hyn y gall cynlluniau llywodraeth y DG ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr olygu mwy o doriadau i wasanaethau ledled yn wlad yn peri pryder mawr.
“Mae iechyd yn faes datganoledig ac felly’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Lafur Cymru. Serch hyn, nid yw’n golygu na fydd yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr yn cael effaith ar Gymru.
“Rhaid i Lywodraeth y DG amlinellu heb oedi pa effaith, os unrhyw beth, fydd eu cynlluniau yn eu cael ar gyllido ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr yng Nghymru. Yn ychwanegol, does gan rai pobl yng Nghymru ddim dewis ond defnyddio gwasanaethau yn Lloegr. Beth mae llywodraeth Cymru’n wneud i sicrhau na fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu heffeithio?
“Mewn cyfnod pan fo’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn ymddangos yn benderfynol o ddifrodi’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, bydd nifer o bobl yn teimlo dicter a rhwystredigaeth gyda’r ffaith fod y brif wrthblaid yn anweledig.
“Mae rhaniadau chwerw a gornest arweinyddol gythryblus y blaid Lafur yn golygu ei bod ar chwal yn llwyr, ac yn arddangos methiant i gyflawni ei dyletswydd i ddwyn llywodraeth y DG i gyfrif.
“Yn gyson mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu cynlluniau dinistriol y Toriaid i Gymru a’r DG ehangach. Ar yr un pryd, mae Llafur wedi eistedd ar eu dwylo dro ar ôl tro gan adael i’r cynlluniau hyn droi’n ddeddfwriaeth heb ei herio.
“Mae’r blaid Lafur wastad yn ymfalchïo yn y ffaith mai hi greodd yr NHS – os na fydd hi’n cael gafael ar bethau’n fuan yna mae peryg iddi fod yn gyfrifol am fethu ag atal ei dranc.”