Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Awst 2016

Ieuenctid gwleidyddol Ewrop yn uno i greu hafan ddiogel ar gyfer ffoaduriaid

Daeth y digwyddiad Breaking Barriers â ieuenctid Ewrop ynghyd i greu platfform i arsylwi, monitro a hyrwyddo tryloywder yng nghyfleusterau prosesu ffoaduriaid yn Ewrop.

Cafodd y digwyddiad Breaking Barriers ei drefnu gan Gyngor Ewrop, yr European Free Alliance Youth (EFAy), â’r Unrepresented Nations & Peoples Organization (UNPO).

Cafodd ei gynnal dros gyfnod o bedwar diwrnod gyda sesiynau a gweithdai yn canolbwyntio yn benodol ar yr argyfwng mudo sydd yn effeithio ar bob cenedl yn Ewrop ar hyn o bryd.

Arweiniodd y digwyddiad at greu Safe Haven, platfform monitro newydd fydd yn edrych i gasglu gwybodaeth ar gyflesterau prosesu ffoaduriaid ar hyd a lled Ewrop.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio gyda’r bwriad o hyrwyddo tryloywder a gwella amodau a phrofiadau cyffredinol ffoaduriaid yn Ewrop.

Daw sylfaenwyr y prosiect o’r Alban, yr Almaen, yr Eidal, y Ffindir ac Ahwazi.

Gofynnant i unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyfleusterau prosesu ffoaduriaid i lenwi ffurflen fechan ar eu gwefan er mwyn casglu gymaint o wybodaeth a phosibl am y cyfleusterau hyn. 

Yn siarad ar ran Safe Haven meddai Rhiannon Valentine Spear: "Mae dros miliwn o ffoaduriaid yn chwilio am hafan ddiogel yn Ewrop am bob math o resymau.

"Mae rhai yn dianc rhag ryfel neu rhag erledigaeth; eraill yn ffoi am resymau gwahanol.

"Pan mae nhw’n cyraedd Ewrop, dylai pob un gael eu trin gyda phob parch ac urddas mewn amodau addas y byddai unrhyw berson yn ei ddisgwyl.

"Wrth gasglu’r wybodaeth a gweithio gyda’n gilydd rydym am hyrwyddo tryloywder ac amodau gwell ar gyfer pob ffoadur sy'n dod i Ewrop.

"Mae pawb yn haeddu hafan ddiogel; a gyda’n gilydd, fe allwn ni sicrhau hyn."

Yn eu plith roedd cynrychiolwyr o Gymru, sef Christian Webb ac Owain Glyn Hughes o Blaid Cymru Ifanc.

Yn siarad wedi’r digwyddiad, meddai Christian: "Roedd hi'n brofiad anhygoel a bythgofiadwy i gwrdd â aelodau o genhedloedd bychain Ewrop i drafod sut gallwn ni gyfrannu at helpu ffoaduriaid,’ meddai Christian.

"Er bod Cymru yn genedl bach, does dim byd yn ei rhwystro rhag cyfranu at ddatrys broblemau mawr y byd.

"Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes gyda’r bobl gwnes i gwrdd yn ystod y pedwar diwrnod yma,’ ychwanegodd, ‘Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda nhw dros ddyfodol ein cenhedloedd ni."

Llun: Christian Webb ac Owain Glyn Hughes o Blaid Ifanc gyda aelodau ifanc o'r SNP Rhiannon Spear a Rory Steel.

Rhannu |