Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Awst 2016

Nigel Owens yn teithio'r wlad i weld 'pwy sy'n gêm?'

Gyda'r gwyliau haf ar ben, bydd y dyfarnwr byd-enwog a'r cyflwynydd doniol Nigel Owens yn codi ein calonnau gyda 'bach o sbort' mewn cyfres newydd llawn hiwmor Nigel Owens: Wyt ti'n Gêm? sy'n dechrau nos Wener, 9 Medi ar S4C.

Bydd nosweithiau Gwener ar S4C yn llawn chwerthin dan lyw Nigel Owens yn Wyt ti'n Gêm? wrth i Nigel a'r criw gael hwyl gyda rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru. A chawn lond bol o chwerthin wrth weld sut fydd sêr y genedl, yn cynnwys Tommo, Shân Cothi a Trystan Ellis-Morris, yn ymateb i branciau tîm Wyt ti'n Gêm?

"Byddwn ni'n dala mas seleb bob wythnos!" meddai Nigel, sy'n byw ym Mhontyberem, ond yn wreiddiol o Fynydd Cerrig, yng Nghwm Gwendraeth. "Fe wnaethon ni ddal y selebs mas mewn sefyllfaoedd annisgwyl, a do'n nhw'n amau dim. Mae eu hwynebau nhw'n werth eu gweld pan ry'n ni'n datgelu mai jôc yw'r cwbl!"

Ond nid selebs yn unig fydd yn rhan o'r direidi gan y bydd y rhaglen yn ymweld â chymunedau ar draws Cymru hefyd.

Bydd Nigel yn cyflwyno un person o'r gymuned honno er mwyn denu sylw at eu gwaith a'u cyfraniad arbennig i'w hardal leol. Ar ddiwedd y rhaglen bydd 'na sialens ddigri' rhwng y seleb a'r person yn y gymuned hefyd!

Ar gyfer y rhaglen gyntaf, mae Nigel yng Nghaernarfon ble mae'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris a’r cymeriad lleol Emrys Llywelyn yn dargedau i hiwmor Nigel. Er y bydd e'n tynnu coes ambell un ar hyd y daith, chwerthin a chael hwyl yw'r peth pwysicaf yn y gyfres hon, esbonia Nigel.

"Mae hiwmor a thynnu coes yn hollbwysig!  Rydyn ni fel Cymry yn gallu colli'n hiwmor ar brydiau. Ond does dim byd mwy iach na gweld pobl yn chwerthin!" meddai Nigel Owens, sy'n 45 oed ac yn ddyfarnwr rygbi rhyngwladol uchel ei barch.

"Mae dyfarnu a chyflwyno rhaglenni ysgafn yn rhoi'r balans cywir i mi.

"Hobi oedd y ddau beth i fi, ond dw i'n lwcus iawn fod y ddau wedi troi'n swyddi i mi yn y pymtheg mlynedd diwethaf.

"Mae dyfarnu ar y cae chwarae yn gallu bod yn swydd ddifrifol, ac felly dyna pam rwy'n mwynhau cyflwyno, rwy'n mynd o'r man difrifol i gyflwyno rhywbeth fel hyn, sy'n llawn hwyl a hiwmor."

Nigel yw'r cyflwynydd perffaith ar gyfer Wyt ti'n Gêm? gan ei fod yn hoff o dynnu coes!: "Rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill, fe ysgrifennais i ar Twitter fy mod i'n ymddeol o ddyfarnu'n broffesiynol. Fe ges i lot o'r wasg yn holi pam ro'n i'n gorffen… cyn iddyn nhw sylweddoli pa ddiwrnod oedd hi!" meddai Nigel yn ddireidus.

Felly, cofiwch fwrw golwg dros eich ysgwydd o dro i dro, achos does wybod ble bydd Nigel yn teithio nesaf gyda thîm direidus Wyt ti'n Gêm? wrth i'r gyfres ddechrau ar S4C nos Wener 9 Medi.

Nigel Owens: Wyt ti'n Gêm?

Nos Wener 9 Medi 8.25, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: s4c.cymru; BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Avanti ar gyfer S4C

Rhannu |