Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Awst 2016

Horizon yn agor estyniad swyddfa safle Wylfa Newydd gwerth £1.4m

Mae Pŵer Niwclear Horizon yn dathlu’r garreg filltir ddiweddaraf ym Mhrosiect Wylfa Newydd yn sgil cwblhau’r estyniad gwerth £1.4 miliwn i swyddfa’r safle.

Ddoe, agorwyd swyddfa Horizon ar ei newydd wedd gan Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, ac mae wedi'i dylunio i ddarparu lle i dîm Wylfa Newydd sy’n tyfu’n gyflym.

Mae’r buddsoddiad hwn wedi treblu maint safle Horizon ar Ynys Môn ac wedi rhoi lle angenrheidiol i’r gweithlu lleol sy’n tyfu o hyd.

Mae’r swyddfa nawr yn cynnwys gofod desg, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau lles a chynadledda i dros 100 o weithwyr Horizon sydd ar y safle – yn ogystal â seilwaith TG, dodrefn ac ystafelloedd i gynefino a hyfforddi dros 100 o gontractwyr sy’n gweithio ar y safle bob dydd.

Daeth gwesteion o bob cwr o Ynys Môn i’r digwyddiad agoriadol, a chawsant daith dywys o’r swyddfa newydd, trosolwg o’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn ac eglurhad o’r cynlluniau sydd i ddod ar gyfer y safle.

Mae tîm Wylfa Newydd yn canolbwyntio ar ddau brif beth: paratoi safle’r orsaf bŵer ar gyfer y gwaith adeiladu, a datblygu’r gweithlu a'r cynlluniau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Dywedodd Charlie Tasker, Cyfarwyddwr Datblygu’r Safle yn Horizon: “Mae cwblhau swyddfa safle Wylfa Newydd yn gam arall pwysig ymlaen i ni.

"Dyma ganolbwynt ein gweithgaredd ar Ynys Môn ac mae cael gofod modern, addas i’r diben ar gyfer ein tîm sy’n tyfu o hyd yn hollbwysig.

"Mae hyn hefyd yn golygu ein bod yn barod ar gyfer twf parhaus tîm Horizon ac mae’n rhoi lle i ni hyfforddi a chynefino llawer o bobl sy’n gweithio ledled y prosiect Wylfa Newydd ar ein rhan.

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: “Rydw i’n falch o weld y swyddfa newydd wedi’i chwblhau, oherwydd bydd y tîm yn gallu gwella a datblygu’r gweithlu sy’n tyfu ar y safle.

"Mae swyddfa’r safle newydd yn un o’r cerrig milltir niferus a fydd yn rhan o’r prosiect ac rwy’n falch o weld un o brosiectau mawr Cymru yn cymryd cam cadarnhaol yn ei flaen."

Ychwanegodd Sasha Davies, Pennaeth Datblygu Strategol Cymru, Horizon: “Bydd ein swyddfa yn brysur iawn yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i ni lansio ail gam ein hymgynghoriad cyn ymgeisio ar 31 Awst.

“Mae’r gwaith o gwblhau’r cyfleuster newydd wedi’i amseru’n dda i gyd-fynd â’r cam nesaf, pwysig hwn yn ein Prosiect.”

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Horizon i adeiladu Wylfa Newydd, gan gynnwys ei ymgynghoriad nesaf, ewch i: http://www.horizonnuclearpower.com/ymgynghoriad

Rhannu |