Mwy o Newyddion
Lyn Lewis Dafis yn symud o'r Llyfrgell i'r Llan
Siwrnai Lyn Lewis Dafis o’r Llyfrgell Genedlaethol i’r Eglwys yng Nghymru sydd dan sylw yn rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru ddydd Sul.
Fe adawodd Lyn ei swydd yn y Llyfrgell wedi 25 mlynedd er mwyn dychwelyd at fywyd myfyriwr a hyfforddi fel offeiriad.
Mae John Roberts, cyflwynydd y rhaglen, yn ei ddilyn o’i ordeinio emosiynol yn ddiacon yn 2015 hyd at ei ordeinio’n offeiriad eleni.
Erbyn hyn mae Lyn, a hyfforddodd yng Ngholeg Mihangel Sant yng Nghaerdydd, yn gurad cynorthwyol yn Llanbadarn Fawr ac Elerch, a Phenrhyn-coch a Chapel Bangor.
Yn ôl y cynhyrchydd Cerian Arianrhod: “Fe wnaethon ni gyfweld â Lyn sawl tro tra roedd e ym Mihangel Sant ac roedden ni’n awyddus i wybod mwy am ei brofiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Pam gadael ei swydd gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, beth oedd yr heriau wrth ddychwelyd i’r coleg, sut brofiadau mae wedi’u cael yn ei blwyfi newydd?
“Pum mlynedd yn ôl fe ddechreuodd Lyn deimlo ei fod yn cael ei alw i wneud mwy na gwasanaethu’r eglwys fel darllenydd lleyg yn unig.
"Mae ‘na sialensau a newidiadau wedi bod ar hyd y daith – dysgu Hebraeg, ail-ddysgu gyrru, dysgu ymddiried yn Nuw am y geiriau cywir pan ddaw plwyfolion ato am gyngor.
"Ond unwaith iddo ymddiswyddo doedd dim troi ‘nôl!
"Ac er bod Lyn yn dweud bod ei ffydd yn cael ei herio yn ddyddiol mae hefyd yn credu ei fod yn derbyn sicrwydd dyddiol o’i alwad.
“Mae Lyn yn mynd â ni ‘nôl i Goleg Mihangel Sant ac i’r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn i ni glywed am ei brofiadau yno a’i benderfyniad i newid cyfeiriad.
"Rydyn ni hefyd yn ymweld â’r eglwys a’r ficerdy ym Mhenrhyn-coch. Mae wedi bod yn gyfnod difyr, ac megis dechrau mae’r siwrnai.”
Yn ôl Lyn: “ Fe ddysgais i lawer am fy hun wrth weithio ar y rhaglen.
"Mae John yn feistr ar ofyn cwestiynau annisgwyl, sy’n beth da mewn cyflwynydd ond ddim wastad yn hawdd i’r un sy’n cael ei holi.
"Fe fu rhaid i mi ystyried ambell beth o’r newydd.
"Dwi’n gobeithio bydd fy hanes o ddiddordeb arbennig i’r rhai sydd yn synhwyro Duw yn eu galw i’r weinidogaeth ordeiniedig ac y byddent yn gweld, er nad yw’r daith wastad yn hawdd, fy mod wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o bobl, ar ffurf cyngor, gofal a gweddïau, ar hyd-ddi."
Gallwch wrando ar Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru am 8yb ddydd Sul, 28 Awst.