Mwy o Newyddion
Ailgartrefu ffoaduriaid o Syria i Gymru yn broses 'boenus o araf'
Mae'r Swyddfa Gartref wedi rhyddhau data newydd yn dangos bod 34 o ffoaduriaid o Syria wedi eu hailgartrefu yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin eleni – gan ddod a’r cyfanswm i 112 ar ddiwedd mis Mehefin.
Meddai Matthew Hemsley, Rheolwr Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth Oxfam Cymru: “Rydym yn croesawu'r ffaith fod mwy o deuluoedd wedi cael eu hailgartrefu yn ddiogel yma yng Nghymru a gwyddwn fod mwy wedi cyrraedd dros fisoedd yr haf hefyd.
"Er hyn, ni allwn anwybyddu pa mor boenus o araf yw’r broses o ailgartrefu ffoaduriaid yma yn dal i fod - yn yr amser a gymerodd i Gymru ailgartrefu 34 o ffoaduriaid, mae Yr Alban wedi croesawu 249 a Gogledd Iwerddon wedi croesawu 104.
"Fel yr atgoffwyd y byd gan y llun o Omran Daqneesh wythnos diwethaf - y bachgen bach pum mlwydd oed yn waed ac yn llwch drosto - mae’r argyfwng ffoaduriaid mor enbyd ac erioed.
"Ac er bod rhywfaint o welliant o ran y niferoedd sydd wedi eu hailgartrefu yma, nid oes unrhyw amheuaeth y gallai ac y dylai Cymru wneud mwy i helpu teuluoedd sydd â’u bywydau yn yfflon oherwydd y rhyfel.
"Rydym yn gwybod bod yr ewyllys yno; mae holl awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y cynllun ailgartrefu a ariennir gan y Swyddfa Gartref.
"Nawr mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu ar frys a gweithio'n agos gyda'i gilydd i gyflymu'r broses."