Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Awst 2016

Pianydd byd-enwog i chwarae mewn gŵyl gerdd nodedig

Mae un o bianyddion mwyaf y byd yn mynd i swyno’r gynulleidfa mewn gŵyl gerdd flaenllaw.

Bydd y pencerddor Janina Fialkowska, 65 oed, yn un o sêr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, sy’n cychwyn yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar ddydd Sadwrn, 17 Medi.

Bydd yn cynnal dosbarth meistr piano ar ddydd Iau, Medi 22 ac yn rhoi datganiad y noson ganlynol, gan gynnwys darnau gan Grieg, Schumann a Chopin.

Caiff yr ŵyl ei chynnal gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd a bydd yn parhau tan ddydd Sadwrn 1 Hydref.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Fialkowska wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 65 oed a theithio ar hyd a lled y byd mewn cyfres o gyngherddau a datganiadau, ond mae’n dweud ei bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at berfformio yng ngogledd Cymru.

Mae Fialkowska, a gafodd ei geni ym Montreal yn ferch i fam o Ganada a thad o Wlad Pwyl, yn cael ei chydnabod fel un o ddehonglwyr mawr cerddoriaeth Chopin a Mozart.

Meddai: “Mae wedi bod yn uchelgais gen i berfformio yng Nghymru. Mae’n wlad sydd ag enw da am gael y corau a’r cantorion gorau a chynulleidfaoedd sydd wir yn caru cerddoriaeth.

“Mae perfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn rhywbeth rwy’n teimlo’n gyffrous iawn amdano ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar.

“Rwy’n arbennig o gyffrous am gynnal dosbarth meistr gyda rhai pobl ifanc hynod ddawnus.

"Rwy’n mwynhau gadael iddynt chwarae ac yna rhoi fy nghyngor, ac yn aml iawn, tua 80 y cant o’r amser rwy’n credu, mae hynny’n golygu atgyfnerthu beth mae eu hathrawon piano eisoes wedi dweud wrthynt.

“Llawer o’r amser, mae hynny’n ymwneud â chynnig y profiad mae rhywun fel fi wedi ei gael yn dilyn blynyddoedd o berfformio, ac weithiau mi all clywed safbwynt gwahanol fod o help.

"Rwyf bob amser yn mwynhau dosbarthiadau meistr a gweithio gyda phobl ifanc dalentog.”

Dechreuodd Fialkowska ddysgu chwarae’r piano pan oedd yn bump oed, gydag anogaeth ei mam a oedd hefyd yn bianydd.

Dywedodd: “Roeddwn i’n ymarfer yn galed iawn, ond doeddwn i ddim yn perfformio’n gyhoeddus yn aml.

"Roeddwn i’n lwcus gan fod fy mam wedi fy nghysgodi rhag yr holl miri sy’n gallu bod yn gysylltiedig a bod yn blentyn dawnus iawn.

"Fodd bynnag, mi wnes i fy ymddangosiad solo cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Montreal pan oeddwn yn 12 oed.

“Rwyf bellach yn byw yn yr Almaen, yn Bafaria, ond rwy’n dal i berfformio yng Nghanada yn aml ac yn mynd yno o leiaf dair neu bedair gwaith y flwyddyn.

"Mae eleni wedi bod yn brysur iawn wrth i mi gychwyn ar daith i ddathlu fy mhen-blwydd yn 65 oed.

“Rwyf wedi gorffen yr hanner cyntaf gan berfformio yn yr Almaen, Canada, Siapan, Gogledd Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Lloegr.

“Cyn i mi deithio i Lanelwy byddaf yn perfformio yng Ngwlad Pwyl yng Ngŵyl Piano Ryngwladol Chopin ac yn union ar ôl Llanelwy byddaf yn dychwelyd i Ganada am gyfres arall o gyngherddau a datganiadau.”

Dywed Fialkowska o’r holl gyfansoddwyr mawr. mai gwaith Chopin yw ei chariad cyntaf, er bod Mozart yn dod yn ail agos.

Ychwanegodd: “Mi wnaeth Chopin gyfansoddi rhan helaeth iawn o’i holl weithiau ar gyfer y piano ac roedd yn deall allweddellau modern i’r dim. Mae’n deimlad mor braf ei chwarae ac mae yna alawon rhagorol yn ei weithiau. Mae’n rhoi boddhad llwyr i mi.

“Mae’n rhaid i bianydd ddeall cyfansoddwr. Os nad yw yn eich gwaed chi yna fedrwch chi ddim perfformio gwaith fel y cafodd ei fwriadu i gael ei berfformio.

"Oes mae angen dawn chwarae, ond hefyd mae angen i chi gael ymdeimlad agos o’r cyfansoddwr a rhaid i chi wybod yn union beth roedd yn ceisio ei ddweud.

“Hyd yn oed yn fy mlynyddoedd hŷn rwy’n ymarfer am o leiaf dair awr y dydd, bob dydd.

“Mae fel athletwr; rhaid i chi barhau i hyfforddi a defnyddio’r holl gyhyrau yn eich repertoire. Felly hyd yn oed pan wyf adref ac yn cymryd seibiant o berfformio rwy’n ymarfer bob dydd.”

Bydd ei rhaglen yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn cynnwys gweithiau gan amrywiaeth o gyfansoddwyr.

Dywedodd: “Rwyf wedi cael cais i berfformio darnau telynegol gan Edvard Grieg a byddaf hefyd yn perfformio rhywfaint o waith gan Schumann. Ond wrth gwrs byddaf hefyd yn cynnwys gwaith gan Chopin.

“Dydw i byth yn blino chwarae Chopin, ac rwy’n gobeithio y bydd y gynulleidfa yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn mwynhau gwrando gymaint ag yr wyf i’n mwynhau perfformio.”

Mae cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Ann Atkinson, yn credu y bydd gŵyl eleni yn un o’r rhai gorau erioed, gan gynnwys première rhyngwladol ail symffoni’r cyfansoddwr brenhinol, yr Athro Paul Mealor.

Meddai: “Mae gennym raglen wych ac amrywiol ar gyfer gŵyl eleni gan gynnwys cyngerdd Dyheu/Ysbrydoli gyda’r delynores frenhinol, Anne Denholm, yn ogystal ag Iwan Llewelyn Jones, Siwan Rhys a disgyblion o Ysgol Glan Clwyd a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.

“Ac mae gennym berfformiadau cyngerdd hefyd gan y gitarydd clasurol Miloš Karadagli? a Margaret Preece, y soprano o sioeau’r West End, a fydd yn perfformio caneuon a ysbrydolwyd gan Rodgers and Hammerstein, NEW Sinfonia, y feiolinydd Tamsin Waley-Cohen, a grwpiau lleisiol Ex Cathedra, Cantorion Dyffryn Clwyd a Chôr yr Ŵyl.

“Mae Janina Fialkowska yn bianydd gwirioneddol ryfeddol a thalentog ac yn ystod ei gyrfa mae wedi ymddangos ar amryw o brif neuaddau cyngerdd y byd. Mae hi hefyd wedi perfformio gyda rhai o’r cerddorfeydd rhyngwladol gorau.

“Bydd yn wefreiddiol ei chlywed yn perfformio. Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn golygu dod â’r gerddoriaeth a’r cerddorion clasurol gorau i Ogledd Cymru ac yn syml iawn, does neb yn fwy neu’n well na Janina Fialkowska.

“Mae gan raglen gŵyl eleni rhywbeth at ddant pawb ac mae yn mynd i fod yn ŵyl anhygoel a chyffrous iawn fydd yn siŵr o ddenu dilynwyr cerddoriaeth glasurol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt."

I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ewch i http://www.nwimf.com. Mae tocynnau ar gael o Theatr Clwyd, 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy, 01745 582,929.

Rhannu |