Mwy o Newyddion
Gwrthwynebu awyrennau di-beilot
Mae Cristnogion Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion bod 500 milltir sgwâr o’r awyr uwchben gorllewin Cymru i’w ddefnyddio ar gyfer profi awyrennau rhyfel di-beilot
"Mae caniatáu profi’r peiriannau llofruddio robotig hyn yn yr awyr uwchben Cymru yn warthus," meddai'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, Cadeirydd Cymdeithas Heddwch yr Annibynwyr.
"Mae rhannau helaeth o’n gwlad eisoes yn cael eu defnyddio at bwrpas milwrol - ar dir, môr ac awyr. Bydd caniatáu datblygu’r dechnoleg lladd ddiweddaraf uwchben Cymru yn militareiddio’n gwlad ymhellach,” dywedodd y Parch Ap Gwynfor, gweinidog yn Llandysul, pentre sydd ynghanol yr ardal lle bydd yr awyrennau’n hedfan.
“Mae'n gywilyddus bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithredu ac yn ymlawenhau yn y datblygiad hwn,"meddai.
Yn ôl Llywydd Undeb yr Annibynwyr, bydd y defnydd cynyddol o awyrennau rhyfel di-beilot yn siŵr o arwain at fwy o drais a lladd yn y byd.
“Mae’n creu braw ac arswyd bod person sy’n eistedd yn niogelwch Nevada yn medru rheoli peiriant sy’n lladd pobl yn Pakistan. Mae’r math hwn o ymosod yn gwneud rhyfela’n haws ac yn fwy amhersonol a chythreulig,” dywedodd y Parchg Andrew Lenny.
“Mae’n diraddio ymladd a lladd i lefel gêm fideo. Ac mae’r gêm frawychus hon yn cael ei datblygu uwch ein pennau ni yng ngorllewin Cymru. Mae’n rhaid bod pob Cristion, pawb sy’n parchu sancteiddrwydd bywyd, yn gresynu bod hyn yn digwydd.”
Mae’n eironig iawn bod y math mwyaf diweddar ac arswydus o awyren di-beilot yn dwyn yr enw Taranis – hen enw Celtaidd duw’r daran. Mae’n bosib y bydd rhai awyrennau di-beilot yn cael eu defnyddio at bwrpas diniwed a defnyddiol fel canfod rhywun sydd ar goll, ond cawsant eu datblygu fel arfau rhyfel. Mae pryder hefyd y gallai heddluoedd wneud defnydd eang ohonynt i wylio o’r awyr. Byddai hynny’n codi cwestiynau dyrys am breifatrwydd a hawliau dynol.
Llun: Parchg Andrew Lenny, Llywydd Undeb yr Annibynwyr