Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Awst 2016

Ceredigion Yn Arwain y Ffordd ar Ailgylchu

Mae Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas AC wedi rhannu ei feddyliau ynglŷn â’r canlyniadau ailgylchu gwastraff diweddaraf.

Roedd yr Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru yn hapus iawn i weld Ceredigion yn cael ei henwi fel yr awdurdod sy’n perfformio orau yng Nghymru wrth iddynt eistedd ar frig y tabl gyda 68% o’u gwastraff yn cael eu hailgylchu.

Gosodwyd y targed o 58% erbyn 2015/16, gyda’r targed yn codi i 64% erbyn 2020 a 70% erbyn 2025.

Meddai: “Mi fydd Llywodraeth Cymru yn siŵr o gymryd y canmoliaeth ond mae’n bwysig ein bod yn clodfori gwaith aruthrol Cyngor Ceredigion, a rheolwyd gan Blaid Cymru.

“Hoffwn ddiolch i’r Cyngor, ac yn enwedig i’r Cyng. Alun Williams yr Aelod Cabinet dros yr amgylchedd, am eu gwaith di-diwedd a’u llwyddiant.”

Mae Cyngor Ceredigion wedi cwrdd â tharged y Llywodraeth ar gyfer 2015/16 yn rhwydd ac nid ydynt yn bell o gyrraedd y targed ar gyfer 2025 yn barod.

Un o brif addewidion polisi Plaid Cymru yn eu Maniffesto oedd cael gwared a’r gwastraff erbyn 2030 - ugain mlynedd yn gynt nag ymrwymiad presennol Llywodraeth Llafur Cymru.

Mae Simon Thomas AC yn credu bod llwyddiant Cyngor Ceredigion yn profi effeithiolrwydd llywodraethol Plaid Cymru: “Ers blynyddoedd, mae Llafur Cymru wedi galw polisïau’r Blaid yn ‘wleidyddiaeth ffantasi’.

"Ond mae llwyddiant parhaol yr Awdurdodau Lleol a rheolwyd gan Blaid Cymru yn profi bod polisïau a thargedau uchelgeisiol y Blaid Genedlaethol yn gyraeddadwy pan mae yna Lywodraeth gref a medrus Plaid Cymru mewn grym.”

Rhannu |