Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Awst 2016

Pedair tarten ac un tenor - Yr enwog Dai Chef i ail greu ei bryd teilwng o Pavarotti

Bydd pen cogydd enwog yn ail greu’r pryd cofiadwy a goginiodd i’r tenor chwedlonol Luciano Pavarotti.

Bydd Dai Chef yn rhannu cyfrinachau gastronomig y seren ddisglair o denor pan fydd yn ymddangos yn fyw yng Ngŵyl Fwyd Hamper Llangollen eleni.

Disgwylir i filoedd o folgwn heidio i’r ŵyl boblogaidd pan fydd tref ymwelwyr yn Sir Ddinbych yn cael ei throi'n brif ddinas coginio Cymru yn ystod penwythnos 15 ac 16 Hydref. 

Yn ystod ei gyfnod yng Ngwesty Bryn Howell, bu Dai’n coginio i beth wmbredd o sêr disglair o ganwyr, gan gynnwys José Carreras a Dame Kiri Te Kanawa, a oedd yn ymddangos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ond pinacl ei yrfa ddisglair i Dai oedd treulio wythnos fel cogydd personol i Pavarotti ar ei daith emosiynol yn ôl i'r Eisteddfod ym 1995.

Daeth pererindod Pavarotti union 40 mlynedd ar ôl iddo gystadlu gyntaf yno fel aelod 19 oed o gôr Chorus Rossini o Modena, yr Eidal ym 1955.

I ddathlu’r achlysur bydd Dai yn arddel ei swyn i goginio, unwaith eto, y pryd oedd yn cael ei baratoi'n arbennig i'r meistr yr haf gogoneddus hwnnw 21 mlynedd yn ôl.

Meddai Dai, sydd erbyn hyn yn chef gweithredol ym mwyty The Cliffs ym Morfa Nefyn ger Pwllheli:  “Pan ddaeth Pavarotti yma i aros, roeddwn i’n chef gweithredol ym Mryn Howell yn Llangollen a oedd, yr adeg hynny, yn un o'r pum gwesty gorau yng Nghymru.

"Fi gafod ei benodi'n gogydd personol iddo am yr wythnos ac roeddwn i'n ei weini yn y bwyty ac yn ei ystafelloedd preifat.

“Roedd yno gyda’i dad, Fernando, a’i holl griw, gan gynnwys ei hyrwyddwr, Harvey Goldsmith, ac roeddwn innau’n paratoi pob pryd ar ei gyfer.

“Y nos Sul, ar ôl llwyddiant ysgubol ei gyngerdd yn yr Eisteddfod, dafliad carreg o’r gwesty, roeddwn i’n creu pryd arbennig i Pavarotti a’i 450 o westeion.

“Anghofia i byth beth oedd yn y pryd hwnnw.  I gychwyn, roedd yna roulade o eog coch a chaws meddal a’r prif gwrs oedd sirlwyn o gig eidion Cymru wedi’i goginio mewn fflam o wisgi a'i weini gyda hufen madarch gwyllt.

“Y rhan fwyaf cofiadwy o’r pryd i mi oedd y pwdin, tarten siocled gwyn a mefus.

“Roedd Pavarotti gymaint wrth ei fodd nes iddo ofyn i mi baratoi pedair arall, nid i'w bwyta i gyd yn y fan a'r lle ond i fynd yn ôl i'w ystafelloedd i'w gweini i'w ffrindiau a'i ymwelwyr.

“Aeth y stori ar led ac arwain at raglen ddogfen ar BBC2 o’r enw Four Tarts and a Tenor.

“Mae’n rhaid i mi ddweud fod y darten yn dal cystal ag erioed ac yn cael ei gweini erbyn hyn yn The Cliffs."

Ac ychwanegodd Dai:  “Dyma’r union bryd fydda i’n ei ail-greu i’r ymwelwyr pan fydda i’n cynnal arddangosfa goginio fyw yn Hamper Llangollen, gŵyl rwy'n ei charu - oherwydd fi oedd un o'r sylfaenwyr cyntaf.

“Mae Llangollen, mewn gwirionedd, fel ail gartref i mi.  Yn ystod fy nghyfnod ym Mryn Howell roeddwn i'n byw gerllaw yn y Waun ac roedd gen i swydd ddwbl o fod yn gadeirydd ac yn chwarae yn ail reng Clwb Rygbi Llangollen.

“Rwy wedi coginio i enwau mawr eraill o’r byd cerdd, fel José Carreras and Dame Kiri Te Kanawa ond fe fyddwn i’n dweud mai gweithio gyda Pavarotti oedd, yn ben dant, un o binaclau fy ngyrfa.

“Roedd yn un o’r adegau hynny pan oedd popeth yn gweithio fel ag y dylai, fy ngallu i fy hunan, y gwesty lle'r oeddwn i'n gweithio a'r Eisteddfod - wnâi i fyth ei anghofio.

“Roedd Pavarotti ei hunan yn ddyn ffantastig.  Roedd ar frig ei broffesiwn ond heb anghofio am funud ei wreiddiau gwerinol.

“Yn groes i’r gred gyffredin, doedd o ddim yn fwytwr mawr ond roedd o’n bwyta’n aml.  

“Er ei fod yn mwynhau'r prydau ffurfiol, mwy, rwy'n meddwl mai ei hoff bryd, y byddwn i'n ei baratoi'n aml iddo ym Mryn Howell, oedd cawl neu botes syml gyda darn pitw o basta neu rywbeth fel darnau bychan o gimwch, stêc ffiled neu asparagus.

“Fe fyddwn yn ei baratoi iddo yn y bore a bydda'n bwyta tameidiau ohono drwy'r dydd, efallai gyda bara ffres a chaws gydag ychydig o finegr basalmig o’i dref enedigol, Modena.

“Fe soniodd y byddai ei fam yn arfer ei wneud iddo ac roedd wrth ei fodd yn ei fwyta yn ei amser hamdden yn ei ystafell gyda’i dad.  Dyma oedd ei gysur, mae’n debyg.

“Rwy hefyd yn cofio cario bocseidiau o lemons ffres, roedd o’n eu defnyddio i gynnal ei lais”

Ac ychwanegodd Dai:  “Roedd y paparazzi’n bla o gwmpas y gwesty drwy'r wythnos yn ceisio darganfod beth oedd yn ei fwyta, ond ddywedais i'r un gair, roeddwn i wedi tyngu na wnawn i.

“Roedd pob math o bethau’n digwydd, fel yr hen ddynion o gôr Modena oedd gyda Pavarotti yn canu ym maes parcio’r gwesty a chobiau mawr Cymreig yn dod yno i fwrw’u pedolau o flaen pawb.

“Roedd yn wythnos o ŵyl wirioneddol gyda selebs go iawn ac rwy eisiau creu ychydig o’r awyrgylch hwnnw gyda’r pryd teilwng o Pavarotti y bydda i’n ei baratoi yn Hamper Llangollen.

“Rwyf wrth fy modd gyda gŵyl fwyd Llangollen.  Yn wahanol i wyliau bwyd eraill, dyw hi ddim mewn pabell fawr ond mewn lle pwrpasol gyda llwyfan mawr, sy’n rhoi’r teimlad gwirioneddol o theatr pan fyddwch chi’n cyflwyno arddangosfeydd coginio.

“Rwy'n edrych ymlaen hefyd at weld yr holl hen ffrindiau yn Llangollen."

Ganwyd a magwyd Dai yn Aberystwyth a chafodd ei hyfforddi yn y coleg coginio yn Hwlffordd.

Daeth ei brofiadau cyntaf yng ngheginau rhai o’r gwestai mwyaf yn y West End yn Llundain.  Erbyn iddo gyrraedd 21 mlwydd oed, Dai oedd y cogydd sawsiau ieuengaf – yn gofalu am greu’r sawsiau gogoneddus – yn y Carlton Club byd enwog yn St James's.

Yn ddiweddarach, daeth Dai’n brif gogydd ym mwyty’r White Hart yn Lewes, Sussex ac am gyfnod roedd yn gogydd personol i berchennog Simpsons yn The Strand, sydd yn yr un adeilad â’r Savoy Hotel eiconig yn Llundain.

Daeth yn ôl i Aberystwyth i redeg ei fwyty ei hunan ac yn ystod cyfnod o 12 mlynedd o ddechrau’r 1990au roedd yn brif gogydd yng Ngwesty Bryn Howel.

Ym 1996, bu Dai’n gapten tîm Cymru yn y Gemau Coginio Olympaidd ac ennill medal efydd am ei sgiliau coginio ac, yn fuan wedyn, cafodd ei anrhydeddu’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Ar ôl cyfnod fel hyfforddwr coginio – erbyn hyn mae llawer o’i ddisgyblion yn gweithio yn rhai o fwytai gorau'r byd - cafodd Dai swydd ymarferol arall fel cogydd gyfarwyddwr yn y Ship Inn yn Nhraeth Coch, Ynys Môn ac yn ddiweddarach fel prif gogydd yng Nghanolfan Fwyd Cymru Bodnant.

Yn The Cliffs, sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar ar gost o £1 miliwn, mae’n gyfrifol am dîm o chwech yn y gegin ac mae’n cydlynu'r paratoadau ar gyfer hyd at 100 o brydau'r noson.

Mae cadeirydd Hamper Llangollen, Colin Loughlin, wrth ei fodd fod Dai Chef yn dychwelyd i’r ŵyl fwyd unwaith eto.

Meddai: “Mae Dai yn gymeriad afieithus ac yn gogydd talentog, y cynhwysion delfrydol ar gyfer llwyddiant yn yr ŵyl fwyd.

“Eleni, bydd ei ymddangosiad yn fwy cofiadwy byth - mae’n ail greu’r pryd oedd wedi’i goginio i Luciano Pavarotti a fydd yn sicr o greu cynnwrf.

“Rydym yn edrych ymlaen at ŵyl wirioneddol arbennig eleni. Diolch i lu o gwmnïau cynhenid, mae gogledd-ddwyrain Cymru’n brysur yn ennill enw da fel canolfan ragoriaeth am fwydydd gwirioneddol wych.

“Mae’r ŵyl fwyd yn ffenestr siop berffaith i’r cwmnïoedd sy’n asgwrn cefn ein heconomi wledig.

“Mae lleoliad y Pafiliwn yn eithriadol o ysblennydd –allai ddim dychmygu fod unrhyw ŵyl fwyd yng ngwledydd Prydain mewn lle harddach.”

Am ragor o fanylion am Hamper Llangollen 2016 ewch i http://www.llangollenfoodfestival.com ac am ragor o wybodaeth am gynnyrch Llanvalley Naturiol ewch i http://www.llanvalley.co.uk

Rhannu |