Mwy o Newyddion
Achub y Plant yn lansio llong chwilio-ac-achub ym Môr peryglus y Canoldir
Mae nifer y plant sy’n croesi Môr y Canoldir o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd wedi codi dros ddau draean – ac mae’r daith yn mynd yn fwy-fwy peryglus ar gyfer mudwyr a cheiswyr lloches sy’n ffoi rhag ryfel, erledigaeth a thlodi enbyd.
Boddwyd dros 3,000 o bobl ym Môr y Canoldir yn barod eleni, cyfradd marwolaethau echrydus sydd yn fwy na 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2015. Marwodd y mwyafrif llethol rhwng Gogledd Affrica â’r Eidal.
Yn erbyn cefndir colled nodedig ac osgoadwy o fywyd, mae Achub y Plant yn lansio ymdrech chwilio-ac-achub newydd ym Môr y Canoldir. Bydd y llong yn weithredol o fis Medi gyda’r bwriad o achub bywydau ar y môr, gydag adnoddau i achub a rhoi lloches i oddeutu 300 o bobl ar y tro.
Mae’r elusen yn lansio apêl Achub ar y Môr newydd i helpu codi arian sydd ei angen ar frys, fydd yn cynorthwyo i gael y cwch yn weithredol ac yn cefnogi ei weithrediadau dros y 15 mis nesaf.
Bu Achub y Plant yn gweithio mewn porthladdoedd Eidalaidd ers mwy nag wyth mlynedd, gan helpu i amddiffyn plant pan fyddant yn cyrraedd y tir mawr, ac maent o’r farn bod difrifoldeb y sefyllfa bresennol yn golygu bod yn rhaid i nhw lansio gweithred chwilio-ac-achub.
Bydd yr asiantaeth gymorth yn goruchwylio gweithrediadau dyngarol ar y llong ac yn darparu staff arbenigol gan gynnwys arweinydd tîm, eiriolwyr diwylliannol, amddiffyn plant, a staff iechyd a logisteg.
Bydd Gwylwyr y Glannau Eidalaidd, y sefydliad sydd yn cydlynu’r holl ymdrechion chwilio-ac-achub yn y môr yn yr ardal yna, yn cyfeirio’r llong tuag at gychod gyda ceiswyr lloches a mudwyr sydd angen cymorth.
Dywed Gwylwyr y Glannau eu bod yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad angenrheidiol i weithrediadau chwilio-ac-achub a gynnigir gan asiantaethau cymorth.
Mewn cyfarfod diweddar gyda cynrychiolwyr o’r sefydliadau cymorth sydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o achub mudwyr, dywedodd y Gwylwyr: “Rydym yn rhannu’r un gôl: i achub bywydau ar y môr.”
Dywed Prif Weithredwr dros-dro Achub y Plant, Tanya Steele: “Plant yw plant, dyna sy’n bwysig cofio.
"Beth bynnag mae’n nhw’n dianc rhagddo, mae ganddynt hawl i fod yn saff.
"Mae hi’n orfodaeth arnom i amddiffyn plant a’u teuluoedd, boed hynny yma yn Ewrop yn barod, neu yn ystod eu taith peryglus ac angeuol.
“Mae’r achosion creiddiol yn gymhleth a niferus, ond mae ein ymateb yn un syml: rhaid i ni stopio’r plant yma rhag boddi.
"Rhaid i wledydd Ewrop gefnogi’r Eidal gyda’r gweithrediadau chwilio-ac-achub.
"Achub bywydau – nid rheoli ffiniau – ddylai fod yn flaenoriaeth i bawb. Ni all Môr y Canoldir barhau i fod yn fedd di-nôd enfawr ar gyfer plant.
“Rydym wedi gwneud y penderfyniad yma i ymyrryd allan ar y môr gan ein bod yn argyhoeddiedig y bydd ein menter, er y gwaith anhygoel sydd wedi ei wneud yn barod gan yr awdurdodau yn ogystal â’r asiantaethau cymorth, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i weithrediadau chwilio-ac-achub er mwyn achub bywydau.”
Bydd y llong, fydd yn hwylio allan o Catania, wedi ei darparu gyda dau gwch gwynt llai o faint a weithredir gan griwiau achub arbenigol.
Byddant yn cynnal cyrchoedd achub, gan achub pobl unai o gychod sydd wedi troi drosodd, neu rhag boddi yn y dŵr ei hun.
Yna caiff y bobl eu trosglwyddo i’r brif long, lle bydd timau arbenigol Achub y Plant ar gael i fynd i’r afael ag anghenion sylfaenol pobl drwy ddarparu bwyd a dŵr, llefydd saff i’r plant ac chyfleusterau meddygol.
Yn ogystal, bydd cyfieithwyr ac eiriolwyr diwylliannol hefyd ar gael er mwyn sicrhau bod Achub y Plant yn deall anghenion pobl ac yn gallu cyfathrebu gyda nhw’n effeithiol ac yn drugarog, gan gynnwys esbonio’r hyn sydd yn digwydd nesaf. Wedi hyn bydd y llong yn mynd â phobl i borthladd saff yn Yr Eidal.
Yna bydd tîm Achub y Plant ar fwrdd y llong yn defnyddio eu cysylltiadau presennol a gwaith ymateb yn Yr Eidal i sicrhau bod plant yn derbyn y gefnogaeth y maent ei angen pan yn cyrraedd.
Mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod, yn 2016, ddwywaith y nifer o blant ar eu pennau eu hunain wedi gwneud y croesiad peryglus i’r Eidal o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd
Bu i naw deg y cant o’r plant a laniodd ar draethau Yr Eidal yn 2016 wneud hynny heb eu rhieni.
Ar draws cyfandir Affrica, mae rhyfeloedd, erledigaeth a thlodi enbyd yn bygwth bywydau plant.
Gyda rhyfelau erchyll yn dinistrio ystod eang o’r Dwyrain Canol, a mwy na 60 miliwn o bobl yn mudo led-led y byd, mae’r argyfwng ffoaduriaid yn brawf moesol cenhedlaeth sydd ddim yn dangos unrhyw arwydd o dawelu.
Bydd plant yn parhau i fentro popeth i chwilio am rywle saff i fyw a dyfodol gwell.
Ychwanegodd Ms Steele: “Bydd ein gwaith yn dechrau ar fwrdd y llong achub, yn adnabod anghenion y plant mwyaf bregus ac ar eu pennau eu hunain, gan ddarparu gofal iechyd a cymorth cyntaf seicolegol.
“Wedi cyrraedd y lan, mae’r plant angen canolfannau derbyn addas lle gallant ad-ennill eu plentyndod – mewn gofod lle mae’n nhw’n saff, wedi eu amddiffyn, yn cael eu bwydo a’u addysgu, ac yn derbyn cefnogaeth seicolegol.
"Dim ond o wneud hyn y bydd llai o blant yn mynd ar goll yn Ewrop a mwy o blant yn wynebu dyfodol gwell.”
Bydd Achub y Plant yn anelu at gydweithio gydag asiantaethau cymorth eraill ynghyd â’r awdurdodau sy’n gweithio yn yr ardal drwy gydol yr amser.
Pan fyddant yn cyrraedd yr Eidal, mae angen bwyd, lloches, cyngor cyfreithiol, gwasanaethau iechyd ac amddiffyn rhag masnachwyr pobl ar y ffoaduriaid a’r mudwyr.
Bydd nifer wedi cael profiadau echrydus ar y daith hir i’r Eidal – cael eu llwgu a’u camdrin drwy law gangiau, teithiau hir ar droed drwy’r anialwch, trais rhywiol ac artaith. Plant ar eu pennau eu hunain sydd fwyaf bregus.
Hyd nes bod yr UE yn darparu dulliau saff a chyfreithlon i geisio am loches yn y gwledydd gwreiddiol ynghyd â chludiant, sydd yn sicrhau hawliau dynol ac yn parchu urddas, bydd pobl yn parhau i beryglu eu bywydau er mwyn cyrraedd lloches yn Ewrop.
Yn ychwanegol i hyn, os nad yw Ewrop yn gwella ei gallu i gyfrifo a gadw golwg ar blant sy’n mudo, bydd plant bregus yn parhau i ddisgyn drwy fylchau y system bresennol.
Dywed Ms Steele: “Rhaid i arweinwyr edrych ar ddulliau o ddarparu llwybrau saff a chyfreithlon ar gyfer ffoaduriaid.
Bydd y Gynhadledd Mudo sy’n digwydd fis Medi, a gyd-lywyddir gan Arlywydd yr UDA Barack Obama, yn gyfle gwleidyddol am newid na ddylai gael ei wastraffu.
“Rydym hefyd angen cynllun hir-dymor sydd yn mynd i’r afael ag achosion mudo peryglus a gorfodadwy, gan gynnwys rhyfel, tlodi enbyd, camdrin hawliau dynol a newid hinsawdd.
"Byddai buddsoddiad gwell mewn swyddi ac addysg yn y gwledydd y daw’r bobl hyn ohonynt, neu’n pasio drwyddynt, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i wneud bywyd yn y llefydd yna yn fwy goddefadwy ac yn darparu dewis arall credadwy i fudo peryglus.”
I gyfrannu tuag at long Chwilio ac Achub, Achub y Plant ewch i:
http://www.savethechildren.org.uk/rescue-at-sea