Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Awst 2016

Cynghorwyr yn beirniadu diffyg gwybodaeth bendant am gynlluniau atal llifogydd

MAE dau o gynghorwyr Porthmadog yn dweud eu bod yn cael eu hamddifadu o wybodaeth gan asiantaethau atal llifogydd ac yn galw am atgyweirio a diweddaru buan ar system ddraenio’r ardal sydd bellach yn 200 mlwydd oed.

Yn ôl y Cynghorwyr Jason Humphreys ac Alwyn Gruffydd, sy’n aelodau o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Porthmadog, nid yw eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif ac meant yn ofni na fydd unrhyw waith o bwys wedi’i orffen cyn y gaeaf hwn er mwyn osgoi llifogydd unwaith eto i fygwth cartrefi a bywoliaeth pobl.

“Mae yna bedwar asiantaeth gwahanol yn gyfrifol am atal llifogydd hyd ddyffryn Afon Glaslyn a Bro Madog,” meddai’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog.

“Ond mae’r wybodaeth ynglŷn â  beth yn union sydd ar y gweill ganddyn nhw’n amrywio o’r naill i’r llall.”   

Mae’r ddau gynghorydd Llais Gwynedd wedi mynychu sawl cyfarfod ac ymweliadau safle gyda chynrychiolwyr Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru yn ogystal â ffermwyr lleol, ond yn dweud nad ydynt fymryn nes i’r lan o wybod manylion cynlluniau atal llifogydd yn yr ardal.   

“Yr hyn yr ydym yn ei wybod ydi fod draeniau ar hyd a lled y fro wedi cwympo, fod ffosydd, sy’n rhan annatod o’r system ddraenio, wedi cau oherwydd diffyg cynnal a chadw rheolaidd, ac nad yw un allan o bump o lidiardau’r Dorau Mawr, sy’n rheoli llif Afon Glaslyn, wedi gweithio ers blwyddyn,” meddai cynghorydd Dwyrain Porthmadog, Jason Humphreys.

“Os nad yw hynny’n arwydd o lifogydd posib wn i ddim be sydd.”

Yn ystod y ddau aeaf diwethaf boddwyd cartrefi a busnesau yn ardal Porthmadog a Thremadog o ganlyniad i law trwm a draeniau diffygiol ac mae’r ddau gynghorydd yn galw am weithredu cynlluniau atal llifogyddd yn yr ardal cyn ddechrau’r gaeaf hwn.

“Roedd peirianwyr yn gallu rheoli llanw a lli’n yr ardal 200 mlynedd yn ôl,” meddent.

“Felly beth sy’n eu rhwystro heddiw.”

Llun: Cyng Alwyn Gruffydd

Rhannu |