Mwy o Newyddion
Ailgylchu yng Nghymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed
Mae ffigurau newydd dros-dro sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod ailgylchu yn parhau i gynyddu a’i fod ar y lefel uchaf a gofnodwyd erioed.
Yn 2015/16 roedd y cyfraddau ail-ddefnyddio cyfun, ar gyfartaledd, sef ailgylchu a chompostio, ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn 60%, cynnydd o 4 pwynt canran ar ffigurau y llynedd.
Mae 2% yn uwch na’r Targed Ailgylchu Statudol newydd uchelgeisiol o 58%.
Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn croesawu’r ffigurau.
Dywedodd: “Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r targedau ailgylchu gynyddu y tu hwnt i’r lefel uchelgeisiol o 58%, cynnydd o darged y flwyddyn flaenorol o 52%.
"Mae’r ffaith bod y ffigurau hyn nid yn unig yn cyrraedd y targed, ond, yn wir, yn uwch na’r targed yn hynod galonogol, gan ddangos ein bod yn parhau i wella ein cyfradd ailgylchu.
"Mae’n amlwg bod Awdurdodau Lleol a deiliaid tai yn gweithio’n galed i ailgylchu, ac rydym wedi mynd yn bell iawn tuag at gyflawni ein targed ailgylchu o 70% a benwyd ar gyfer 2025.
"Rwy’n falch iawn ein bod yn arwain gweddill y DU o ran ein cyfradd ailgylchu ond rwyf am i ni wneud hyd yn oed yn well a dod yn un o’r gwledydd gorau yn Ewrop am ailgylchu.”
Mae pob un ond tri o’r dau-ar-hugain o Awdurdodau Lleol wedi llwyddo i gyrraedd y targed o 58%, yn seiliedig ar y data dros-dro.
Mae’r Awdurdodau Lleol sy’n weddill wedi derbyn cyllid ychwanegol fel rhan o Raglen Newid Gydweithredol Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn eu galluogi i wella eu gwasanaethau casglu a chyfleusterau’r depo a’u helpu i gyrraedd y Targedau Ailgylchu Statudol yn y dyfodol.
Mae’r datganiad chwarterol ‘Rheoli Gwastraf Trefol yr Awdurdod Lleol Ionawr - Mawrth 2016’ ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-municipal-waste-management/?skip=1&lang=cy