Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Awst 2016

Angen fersiwn Gymreig o ddata economaidd ‘GERS’, medd Adam Price

Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnes, yr Economi a Chyllid, Adam Price AC, heddiw wedi galw am gyflwyno data economaidd penodol i Gymru er mwyn gwella ansawdd a chyfanswm y wybodaeth sydd ar gael am gyflwr ein heconomi.

Daw galwad Adam Price AC wrth i ffigyrau GERS (Government Expenditure and Revenue Scotland) gael eu cyhoeddi heddiw – data sy’n darparu dadansoddiad manwl o gyfrifon y sector gyhoeddus.

Ychwanegodd y byddai fersiwn Gymreig o GERS yn darparu mwy o dryloywder ac yn galluogi’r llywodraeth i weithredu polisiau economaidd clyfrach, wedi eu teilwra i fodloni anghenion arbennig yr economi Gymreig.

Dywedodd Adam Price AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Credai Plaid Cymru fod gwella ansawdd a chyfanswm y wybodaeth sydd ar gael yn allweddol i adfer ein heconomi’n llwyddiannus.

“Ar hyn o bryd, mae diffyg gwybodaeth economaidd sy’n benodol i Gymru ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i luniwyr-polisi ffurfio strategaeth sydd wedi ei theilwra i ofynion penodol yr economi Gymreig.

“Cyn Etholiad y Cynulliad fis Mai, cynigiodd Blaid Cymru weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau fod ystod ehangach o ystadegau yn cael eu cynhyrchu ynghylch perfformiad yr economi Gymreig, yn cynnwys ffigyrau GVA chwarterol cyfredol, set lawn o gyfrifon cenedlaethol, yn cynnwys data mewnforio-allforio ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ar lefelau o fewn a thu allan i’r DG.

“Fe wnaethom hefyd gynnig y dylid datblygu rhestr genedlaethol o’r galw am nwyddau a gwasanaethau sylfaenol megis bwyd, tai ac ynni er mwyn adnabod cyfleoedd posib eraill i gwmniau domestig.

“Tra’r oeddem yn falch o weld Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o gyflwr yr economi Gymreig yn gynharach eleni, mae’n hanfodol nad rhywbeth unigryw oedd hyn a bod y llywodraeth yn comisiynu gwaith o’r fath ar sail flynyddol a swyddogol.

“Gyda’r Alban yn cyhoeddi ei ffigyrau GERS heddiw, mae’n hen bryd fod disgwyl i Lywodraeth Cymru gynhyrchu adroddiad blynyddol ar yr economi, yn cynnwys tabl mewnbwn-allbwn manwl a set lawn o gyfrifon sector gyhoeddus, yn debyg i’r cyhoeddiad Albanaidd.

“Credai Plaid Cymru y byddai hyn yn arwain at bolisiau clyfrach fyddai yn eu tro yn rhoi hwb i dwf, cynhyrchiant a swyddi da – conglfeini adferiad economaidd llwyddiannus.”

Rhannu |