Mwy o Newyddion
Artist o Gaernarfon yn arddangos ei waith yn y Senedd dan nawdd Siân Gwenllian
Mae Stephen Kingston o Gaernarfon yn arddangos darn o’i waith yn y Senedd yng Nghaerdydd tan ganol mis Medi, yn dilyn hyrwyddiad ei AC lleol, Siân Gwenllian.
Un o’r darnau sydd i’w weld yno yw murlun 13 troedfedd o Eisteddfod 2015, yn dangos pobl a digwyddiadau’r ŵyl pan fu’n ymweld â Meifod yng nghanolbarth Cymru y llynedd.
Meddai: “Roeddwn i’n ffodus iawn i gael fy nerbyn gan Y Lle Celf yn yr Eisteddfod, a mi wnes i ddechrau’r wythnos gyda chynfas wag, a mynd allan ar hyd y maes yn sgetsio ac yn sylwi ar y bobol ro’n i’n eu gweld.
"Ro’n i wedyn yn mynd yn ôl at y gynfas ac yn creu darlun bob yn dipyn o’r hyn roeddwn i wedi ei weld, gyda’r darn yn cael ei orffen fel ddaeth yr wythnos i ben.
"Roedd yn brofiad cyffrous iawn cael cyfle i roi ar bapur fy argraff bersonol i o wythnos mor bwysig yn niwylliant Cymru.
“Cefais ymatebion positif iawn gan y rhai welodd y darn, ac roeddwn i wrth fy modd pan gysylltodd y Cynulliad i ofyn imi ddangos y darn yno eleni, ac rydw i’n ddiolchgar iawn i Sian Gwenllian am y gefnogaeth a’r nawdd.”
Meddai Siân Gwenllian: “Rydw i wastad wedi bod yn hoff o waith Stephen, yn enwedig am ei fod yn dewis gweithio mewn gwagleoedd cyhoeddus, ble mae rhyddid i bobol ddod ato i sgwrsio a chyfnewid syniadau.
"Dylai profiadau celfyddydol fod ar gael yn hawdd i’r bawb, ac mae creu gwaith yng nghanol pobol yn gwneud yn siŵr o hynny.
“Rwy’n teimlo yr un fath am wleidyddiaeth a gwleidyddion, a rydw i’n falch iawn pan mae pobol yn dewis galw heibio’r Senedd i siarad efo ni.
"Rydym yn croesawu nifer o dripiau ysgol, ac mae’n beth gwych bod pobol yn teimlo’n ddigon cyfforddus i alw i mewn am sgwrs.”