Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Awst 2016
Gan MERYL DAVIES, cyn-lywydd cenedlaethol Merched y Wawr

Colofn olaf Meryl Davies fel llywydd Merched y Wawr - Mae hi wedi bod yn bleser ac yn fraint

PRIN iawn oedd yr amser rhwng gadael Llanelwedd ac ail gychwyn am Eisteddfod Y Fenni.

Ac yn yr amser byr hwnnw, bu Iolo  a Branwen, fy wyrion, yn aros efo mi, ac yn y tridiau hynny, fe gawsom nhw ail barti pen-blwydd!

Mae cael parti yn Nyffryn wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol, ac fe gafwyd amser gwych yng nghwmni teulu mawr y Gogledd. 

Wedi eu danfon yn ôl i Gaerdydd, a chael noson o gwsg, dyma droi am Y Fenni.

Roedd hi’n wythnos i’w chofio i bawb a fu yno am wn i, ond yn arbennig felly i mi, gan mai Eisteddfod y Fenni oedd fy nigwyddiad swyddogol olaf, wrth i fy nhymor ddod i ben.

Bu’n wythnos brysur ofnadwy, y galw am baneidiau yn ddi-stop, fel ag yr oedd y gwaith o lenwi’r  boeleri! Ac wrth gwrs, bu llawer iawn o sgwrsio a chwerthin dros baned.

Diolch i holl aelodau’r de ddwyrain fu wrthi’n brysur cyn yr Eisteddfod yn paratoi’r babell – fu gwisgoedd yr Orsedd erioed yn edrych cystal, wedi eu haddurno ag Ategolion.

A thrwy’r wythnos bu aelodau a swyddogion y Rhanbarth, gyda Shirley, eu swyddog datblygu, yn cadw’r olwyn i droi. Diolch o galon i chi bob un.

Brynhawn dydd Mercher, cafwyd cyflwyniad arbennig ar lwyfan y Pafiliwn gan aelodau’r Rhanbarth yn trafod ‘Merched Mentrus Mynwy’ (rhai heddiw) ac fe gawsom wybod llawer iawn amdanynt.

Mae’n debyg mai’r hetiau fydd yn aros yn y cof, gan i Tegwen, Sandra, Dr Elin Jones, a minnau gael modelu hetiau unigryw iawn – creadigaethau mawr o blu a sidan.

Ar ddiwedd y cyflwyniad, roedd yn amser i mi drosglwyddo’r llywyddiaeth i’m holynydd, sef Sandra Morris Jones, o gangen Bronant, ger Tregaron. Ac yna, yn y Babell Lên, cawsom gyfle i ddod i adnabod Sandra, drwy gyflwyniad cynnes iawn amdani gan aelodau Rhanbarth Ceredigion. Diwrnod emosiynol iawn i ni’n dwy.

Digwyddiad arall wnes i fwynhau oedd gwrando ar Dylan Ebenezer yn holi Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes, er nad oedd Dylan yn cael cyfle i ddweud llawer. Profiad arbennig, a gwefr yr hyn a ddeilliodd o’r gemau pêl-droed i’w deimlo’n llifo drwy’r gynulleidfa.

Wrth i mi orffen fy nhymor, dyma fy nghyfraniad olaf i’r golofn yma, ond peidiwch â phoeni, bydd Sandra yn cyfrannu am y ddwy flynedd nesaf. Mae fy niolch yn ddi-ben-draw i bawb am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd, gan gynnwys Gareth, Garej Edern, am wneud yn siŵr fod y car bach glas yn barod i deithio bob amser.

Diolch i bawb a gefnogodd ‘Ategolion at y Galon’ – mae Sefydliad y Galon bellach er eu hennill o dros £37,000 – syfrdanol. A diolch i chi ddarllenwyr am eich cwmni.

Mae wedi bod yn ddwy flynedd o waith caled, ond mae hefyd wedi bod yn bleser ac yn fraint.Bellach, mae’r fraint honno wedi ei throsglwyddo i Sandra, a dwi’n gwybod y caiff hi’r un gefnogaeth wrth iddi arwain y mudiad drwy Ddathliadau’r Aur.
Dymuniadau gorau Sandra. Joia.

Lluniau: Meryl Davies, a Sandra Morris Jones, isod

Rhannu |