Mwy o Newyddion
Cyfle i weld y ‘Bardd Celtaidd’ Robin Williamson yng Nghastell Henllys
Daw cyfle i wrando ar ganeuon a straeon gan un o ffigurau chwedlonol y sîn werin Geltaidd nos Sadwrn 27 Awst ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys.
Am un noson yn unig, bydd Robin Williamson, sy’n cael ei alw'n 'Fardd Celtaidd' ac sy’n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd The Incredible String Band, yn perfformio yn lleoliad hudolus Castell Henllys.
Dywedodd Rhonwen Owen, rheolwr Castell Henllys: “Roedd caneuon a straeon yn chwarae rhan fawr yn y diwylliant Celtaidd dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl pan oedd llwyth y Demetae yn byw yng Nghastell Henllys.
“Mae hwn yn gyfle prin i ymgasglu o gwmpas y tân yn ein bryngaer wedi ei hailadeiladu wrth i Robin ein difyrru gyda chaneuon a mythau o'n gorffennol Celtaidd.
“Roedd adrodd straeon, rhythm a chân yn un o'r ffyrdd roedd pentrefwyr yr Oes Haearn yn trosglwyddo mythau a chwedlau eu hynafiaid i'w plant.
"Mae'r digwyddiad arbennig hwn gyda Robin, mewn man wedi ei drwytho mewn treftadaeth Geltaidd, yn argoeli i fod yn noson unigryw i'w chofio.”
Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01239 891319.
Mae Castell Henllys dan berchnogaeth a rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau ar hyd y flwyddyn.
Ceir rhagor o wybodaeth ar http://www.castlehenllys.com