Mwy o Newyddion
Annog trigolion i dorri llysdyfiant sydd wedi gordyfu
Oherwydd fod cymaint o dyfiant o erddi ym Môn yn amharu ar lwybrau a ffyrdd mae Cyngor Sir Môn wedi mynd i’r afael â’r broblem.
Anogir y trigolion i chwarae eu rhan yn y gwaith o dorri’r holl lwyni a choed sy’n peri trafferth cyn y bydd y cyngor yn codi tâl am wneud y gwaith eu hunain.
Mae cwynion dros yr haf am y llysdyfiant o erddi a chaeau wedi arwain Swyddogion Priffyrdd i rybuddio pobl am yr effeithiau posibl ar ddiogelwch y ffyrdd.
Eglurodd Dewi Williams, Pennaeth Priffyrdd, Rheoli Gwastraff ac Eiddo: “Gall llysdyfiant sydd wedi gordyfu effeithio ar ddiogelwch modurwyr a cherddwyr.
"Gall amharu ar allu pobl i weld, cuddio arwyddion ffordd ac ar adegau, gall orfodi pobl i orfod gadael y pafin a cherdded yn y ffordd.
“Mae’n broblem, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ac rydym yn annog trigolion i sicrhau bod unrhyw goed neu lwyni yn eu gerddi yn cael eu torri ac nad ydynt yn cael eu gadael i dyfu allan i’r ffordd fawr.”
Ychwanegodd: “Nid ydym eisiau gweld unrhyw ddamweiniau, felly rydym yn gofyn i bobl am eu cydweithrediad ac iddynt reoli eu gerddi er mwyn gwarchod modurwyr a cherddwyr fel ei gilydd.”
Mae cyngor sut i ymgymryd â’r math hwn o waith mewn modd priodol, gan ystyried bywyd gwyllt ac adar yn nythu, ar gael gan Wasanaeth Priffyrdd Môn.
Meddai’r deilydd portffolio Priffyrdd, y Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae gennym y pwerau i allu cyflawni gwaith brys ein hunain ac yna hawlio ad-daliad yn ôl gan berchennog yr eiddo neu’r tir lle mae’r broblem wedi codi.
"Wrth gwrs, byddai’n well ceisio osgoi problem o’r fath rhag codi yn y lle cyntaf felly rwy’n annog y cyhoedd i gefnogi ymdrechion y cyngor sir.”