Mwy o Newyddion
Cynnydd 'calonogol' yn y symiau sy’n cael eu buddsoddi mewn hyfforddiant yng Nghymru
Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi croesawu Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS) 2015 sy’n dangos bod mwy o gynnydd i’w weld yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU yn y symiau y mae cyflogwyr yn eu buddsoddi mewn sgiliau.
Mae'r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr yn darparu gwybodaeth allweddol am y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, am brinder sgiliau, lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant, a datblygu'r gweithlu.
Mae’r adroddiad ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cynnydd calonogol yn y symiau sy’n cael eu buddsoddi mewn hyfforddiant.
Yn 2011, y swm a wariwyd ar bob cyflogai ac ar bob hyfforddai oedd yr isaf yng ngwledydd y DU. Mae’r swm hwnnw wedi cynyddu ac erbyn hyn, ef yw’r uchaf yn y DU.
Buddsoddodd cyflogwyr yng Nghymru swm o £1.6 biliwn yn 2011. Mae wedi codi i £2.1 biliwn yn 2015.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae hyn yn dangos bod cyflogwyr yng Nghymru yn barod i fuddsoddi mwy yn sgiliau eu gweithwyr, sy’n awgrymu eu bod yn cydnabod gwerth hyfforddiant o’r fath.
“Mae’r neges hon am yr ymdrech i gyd-fuddsoddi yn un gadarnhaol.”
Mae’r arolwg yn dangos bod heriau o hyd y mae angen mynd i’r afael â nhw.
Ni welwyd fawr o newid yng nghyfran y cyflogwyr yng Nghymru sy’n cynnig hyfforddiant, gan amrywio rhwng 62 a 63 y cant er 2011.
Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y sefydliadau yng Nghymru sy’n cael anhawster recriwtio oherwydd bod prinder sgiliau ymhlith ymgeiswyr.
Ychwanegodd Julie James: “Mae canfyddiadau Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2015 yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru yn un fywiog, gyda thwf sylweddol yn nifer y cyflogwyr sy’n mynd ati i recriwtio.
“Mae yna dystiolaeth bod y gweithlu’n un hynod fedrus, ac mae mwyafrif llethol y sefydliadau’n dweud eu bod yn hapus â’r arbenigedd sydd gan eu staff.
“Er bod cyflogwyr nad ydynt yn cynnig hyfforddiant yn dweud fel arfer bod eu gweithlu yn gwbl fedrus, dylai cyflogwyr, yn ogystal ag ystyried y sgiliau y mae eu hangen ar eu gweithwyr yn awr, hefyd ystyried y sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw yn y dyfodol.
“Mae angen o hyd inni fynd ati i bwysleisio manteision hyfforddiant i’r cyflogwyr hynny nad ydynt yn ei gynnig ar hyn o bryd, i’w darbwyllo ei fod yn ddefnydd buddiol o adnoddau ariannol ac amser.
“Rydyn ni’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau drwy greu o leiaf 100,000 o gyfleoedd i bobl o bob oed fanteisio ar brentisiaethau. Bydd hynny nid yn unig yn cynorthwyo unigolion ond hefyd yn helpu cyflogwyr i ddatblygu eu busnesau.”