Mwy o Newyddion
'Rhaid grymuso Cymru i warchod yr economi a'n cymunedau rhag Brexit' - Leanne Wood
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, heddiw wedi dadlau'r achos o blaid grymuso'r Cynulliad Cenedlaethol gyda phwerau cyllidol ystyrlon er mwyn gwarchod cymunedau Cymreig a'r economi rhag effaith Brexit.
Nododd Ms Wood y bydd Mesur Cymru yn dychwelyd i'r Tŷ Cyffredin fis Medi a bod hyn yn cynnig cyfle i adolygu'r setliad datganoli presennol a phwyso am fodel cryfach i sicrhau fod gan Gymru fwy o reolaeth dros ei materion ei hun.
Heriodd hi arweinwyr y pleidiau eraill yn y Cynulliad i annog eu cydweithwyr yn San Steffan i gefnogi'r achos hwn ac i brofi eu bod o ddifrif am sicrhau fod Brexit yn profi'n llwyddiant.
Dywedodd Leanne Wood: "Mae pleidlais y DG i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno sawl her i Gymru - ond mae'n bwysig nad ydym yn colli'r cyfleoedd hefyd.
"Gyda misoedd o ansicrwydd yn wynebu ein heconomi, mae'r achos o blaid Cymru'n derbyn mwy o reolaeth dros ei materion ei hun pan ddaw'n fater o bwerau cyllidol yn cryfhau.
"Bydd Mesur Cymru yn dychwelyd i'r Tŷ Cyffredin fis Medi - y cyfle olaf i ASau wella'r ddeddfwriaeth hon er mwyn grymuso'r Cynulliad Cenedlaethol gyda'r pwerau angenrheidiol i warchod ein heconomi a chymunedau rhag beth bynnag sydd o'n blaen.
"Nid yw setliad presennol Cymru'n addas. Mae gormod o'r penderfyniadau sy'n effeithio ein bywydau pob dydd yn nwylo llywodraeth Brydeinig sydd un ai'n anwybodus neu'n ddi-hid pan ddaw'n fater o warchod buddiannau ein cenedl.
"Rwy'n annog arweinydd pob plaid yng Nghymru i roi pwysau ar eu cydweithwyr yn San Steffan i sicrhau na fydd Mesur Cymru'n profi i fod yn gyfle coll.
"Mae hanes yn dweud wrthym y bydd lles economi Cymru'n isel iawn ar restr blaenoriaethau Theresa May a'i gweinidogion yn Whitehall.
?"Dim ond pan fydd gan ein sefydliad cenedlaethol bwerau ystyrlon dros feysydd megis yr economi, adnoddau naturiol, plismona a chyfiawnder y gallwn roi polisïau 'gwnaed yng Nghymru' ar waith sydd wedi eu dylunio o sicrhau fod ein gwlad yn gwireddu ei photensial i fod yn rhywle teg a ffyniannus."