Mwy o Newyddion
Côr Di Dôn Caerdydd - côr arbennig i’r rhai sydd ddim yn gallu canu
Gwlad y Gân yw Cymru, ond nid i’r bobl hynny sy'n methu canu, y rhai sydd heb ddealltwriaeth gerddorol, na'r rhai sy’n rhoi cur pen i bobl wrth iddyn nhw drio canu.
Ond mae gobaith. Mae côr newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd fis nesaf. Côr arbennig i’r rhai sydd ddim yn gallu canu.
Ar 11 Medi, bydd Côr Di Dôn yn cael ei lansio, gyda’r rociwr Mei Gwynedd, cyn-aelod o’r Big Leaves ac un o frodyr cerddorol Sibrydion, yn ei arwain.
Daeth y syniad o Nottingham, pan fu rheolwraig y côr, Jessica Davies-Timmins, yn gweithio yno ar brosiect.
Meddai Jessica: “O'n i’n gweithio ar ymgyrch 'Sing Your Heart Out' gan y Royal Voluntary Service, a des i ar draws Côr Di Dôn yn Nottingham.
"Am syniad gwych, meddyliais! Beth am sefydlu rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd? A dyma ni."
Mae’r côr yn arbennig i bobl sy’n hoffi canu ond heb y gallu, y profiad na’r hyder i wneud hynny.
Ychwanegodd Jessica: "Da ni’n gwybod fod canu fel rhan o grŵp yn dda iawn i chi; mae’n gallu gwneud gwahaniaeth positif sydd yn fudd-dal emosiynol, ffisegol a chymdeithasol.
“Ar ddiwedd y dydd, mae Mei a fi yn gobeithio y bydd pawb yn cael hwyl ac yn mwynhau canu fel rhan o gôr.”
Mae'r cerddor proffesiynol, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Y Gerddorfa Ukelele gyda Menter Caerdydd, Mei Gwynedd yn dewis y caneuon yn ofalus.
Eglurodd: “Dim ond canran fechan o bobl sydd wir yn dôn-fyddar, ond mae diffyg hyder ac ymarfer yn golygu bod pobl yn teimlo’n ddi-dôn.
"Mae dewis y caneuon iawn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.”
Bydd Côr Di Dôn Caerdydd yn gweithredu’n ddwyieithog, ac mae croeso mawr i bawb gymryd rhan.
Fe fydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Sul, 11 Medi o 7.30yh i 9.30yh, yng nghampfa Aspire Fitness, Treganna.
Am fwy o fanylion ewch i https://www.eventbrite.co.uk/edit?eid=26689128903 neu e-bostiwch Cardiff@tunelesschoir.com
Llun: Jessica Davies-Timmins a Mei Gwynedd