Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Awst 2016

Plaid Cymru yn herio ymgeisydd arweinyddol Llafur i weithredu, nid siarad

Mae Plaid Cymru wedi herio ymgeisydd arweinyddol Llafur, Owen Smith, i brofi ei fod o ddifrif am ddatganoli drwy weithredu, nid dim ond siarad, pan ddaw'n fater o bleidleisio ar Fesur Cymru.

Mae llefarydd y blaid ar faterion cyfansoddiadol, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu Owen Smith am ddisgrifio ei hun fel 'datganolwr ymrwymedig' er dibenion ei ymgyrch arweinyddol, tra bod ei record pleidleisio'n profi'r gwrthwyneb.

Cyfeiriodd Ms Saville Roberts at fethiant Owen Smith i fod yn bresennol mewn dadl allweddol ar Fesur Cymru fis Gorffennaf, a'i record pleidleisio wedi iddo ymatal neu bleidleisio yn erbyn datganoli pellach i Gymru dro ar ôl tro.

Dywedodd Liz Saville Roberts: "Mae'r ffaith fod Owen Smith wedi disgrifio ei hun fel 'datganolwr ymrwymedig' yn enghraifft berffaith o'i ragrith sinigaidd sydd wedi ei alluogi i alw ei hun yn 'wrth-lymder' ar ôl pleidleisio o blaid Siarter Llymder y Torïaid, ac fel pencampwr yr ymgyrch yn erbyn toriadau lles ar ôl ymatal ar Fesur Lles y Ceidwadwyr.

"Ers cyrraedd Senedd San Steffan mae o wedi bod ymhlith un o wrthwynebwyr mwyaf chwyrn datganoli ac unai wedi ymatal neu ymuno gyda'r Ceidwadwyr i bleidleisio yn erbyn datganoli pellach i Gymru dro ar ol tro.

"Mae'r ffaith ei fod yn ceisio portreadu ei hun fel 'datganolwr ymrwymedig', jysd er dibenion ei yrfa ei hun o fewn y Blaid Lafur, yn ffars llwyr.

"Yn y bleidlais olaf un ar ddatganoli yng Ngorffennaf, ymatal ar ddatganoli cyfrifoldeb dros blismona a dŵr wnaeth Owen Smith - dau faes yr oedd Comisiwn trawsbleidiol Silk yn argymell eu datganoli i Gymru.

"Ar y pryd, roedd Owen Smith yn ei hystyried hi'n well gadael i'r Ceidwadwyr yn San Steffan reoli dŵr Cymreig na throsglwyddo rheolaeth i'w blaid ei hun yn Llywodraeth Cymru.

"Nid wyf yn siŵr beth yn union sydd wedi newid ers Gorffennaf i'w wneud yn 'ddatganolwr ymrwymedig'.

"Serch hyn, os yw Owen Smith wedi newid ei wleidyddiaeth dros nos, yna byddwn yn fwy na balch o groesawu hynny.

"Bydd gan Senedd San Steffan un cyfle arall i newid Mesur Cymru fis Medi a bydd Plaid Cymru'n gwneud popeth o fewn ei gallu i rymuso pobl Cymru a rhoi'r offer angenrheidiol i Lywodraeth Cymru i dyfu'r economi, gwarchod yr NHS ac ailadeiladu ein sector addysg.

"Rhaid i Owen Smith brofi ei gymwysterau newydd o ran cefnogi datganoli a gweithredu, nid dim ond siarad.

"Rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn y lobi pleidleisio ochr yn ochr â Phlaid Cymru, ond rwy'n amau y byddaf yn aros am gryn amser."

Llun: Liz Saville Roberts AS

Rhannu |