Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Awst 2016

Babs i gefnogi Plant mewn Angen

Bydd Babs, y car rasio enwog a dorrodd y record cyflymder ar dir ym Mhentywyn ym mis Ebrill 1926, yn cymryd rhan yn ymgyrch Plant mewn Angen y BBC.

Mae Babs yn treulio'r haf yn yr Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn ond ni fydd yno o ddydd Mercher (24 Awst) tan Ddydd Llun Gŵyl y Banc, sef 29 Awst, neu ddydd Mawrth 30 Awst.

Dywedodd Gavin Evans, Curadur yr Amgueddfa: "Mae Ymddiriedolaeth Babs yn arddangos y car fel rhan o Car-fest (De) 2016 Chris Evans i gefnogi Plant mewn Angen y BBC yn Laverstoke Park Farm, Hampshire.

"Bydd yr Amgueddfa ar agor fel arfer ond ni fyddwn yn codi tâl ar oedolion tra na fydd Babs yno. Mae plant wastad yn cael dod i mewn am ddim."

Gyda John Parry-Thomas wrth y llyw fe gyrhaeddodd Babs gyflymder o 170.624mya, gan chwalu record Malcolm Campbell ym Mhentywyn yn 1925 a record Henry Segrave yn Southport ym mis Mawrth 1926

Cipiwyd y teitl eto gan Malcolm Campbell yn ei Blue Bird Sunbeam ym mis Chwefror 1927 a bu farw Parry-Thomas yn drasig wrth iddo geisio cipio’r teitl yn ei ôl. Claddwyd Babs yn y twyni.

Yn 1969 codwyd y car o’r tywod a rhoddwyd bywyd newydd iddo gan yr adferwr ceir Owen Wyn Owen. Er llawenydd i lawer caiff Babs ei harddangos bob haf yn Amgueddfa Cyflymder Cyngor Sir Caerfyrddin ym Mhentywyn.

Rhannu |