Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Awst 2016

Eben a Swyn wedi eu dewis fel Llysgenhadon i Gymru yn Slofenia

Mae Swyn Llŷr o Bontnewydd ac Eban Muse o Garmel ger Caernarfon wedi eu dewis fel  Llysgenhadon Cymreig mewn digwyddiad pwysig yn Slofenia 9 – 11 Medi.

Byddant yn ymuno gydag 20 o bobl ifanc eraill o naw o wledydd Ewropeaidd mewn cwrs hyfforddi dan yr enw ‘Llysgenhadon Ifanc ar gyfer Addysgu’r Ifanc yn erbyn Rhagfarn’, sydd wedi ei ariannu gan raglen Erasmus + yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y rhaglen ei hysbrydoli gan ymgyrch ‘No Hate Speech Campaign’ Cyngor Ewrop a thueddiadau diweddar yn Ewrop, megis radicaleiddio’r ifanc neu anoddefgarwch a chasineb tuag at estroniaid sydd wedi ei sbarduno gan argyfwng y ffoaduriaid.

Cafodd y prosiect ei ddatblygu gyda’r syniad fod rhannu gwybodaeth gywir yn allweddol i fynd i’r afael â rhagfarn ac ymddygiad treisgar ac anoddefgar ymysg pobl ifanc.

Bydd Swyn ac Eben yn cynrychioli’r Urdd, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn Slofenia.  Y nod ar ddiwedd y cwrs yw y byddant yn lledaenu’r hyn maent wedi ei ddysgu yn ôl adref ac yn creu cysylltiadau gyda sefydliadau ieuenctid eraill o fewn Ewrop.

Yn ôl Eben, sydd yn 20 oed: “Rydw i yn edrych ymlaen at gael cyfarfod pobl ifanc o gymaint o wledydd gwahanol, a chael trafod materion cyfoes megis Brexit, a'r sialensiau y bydd ein cenhedlaeth ni yn eu hwynebu yn y dyfodol megis newid hinsawdd, twf yr asgell dde ar hyd Ewrop, a'r argyfwng ffoaduriaid.

“Y peth pwysicaf i mi yw ein bod yn llwyddo i gynrychioli Cymru mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein diwylliant unigryw, ein gobeithion at y dyfodol, ond hefyd ein bod yn cyfleu ein bod yn awyddus fel gwlad, ac fel cenhedlaeth, i fod yn rhan o Ewrop yn y dyfodol fel cymuned ryngwladol er mwyn wynebu'r sialensiau heriol sydd i ddod.”

Ychwanegodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd gymryd rhan yn y prosiect hwn ac mae’n wych y bydd Swyn ac Eben yn dysgu am hawliau dynol gwirioneddol, yn arbennig yr hawl i wybodaeth o safon.  Byddant wedyn, wrth reswm, o wybod eu hawliau yn gwybod sut i’w hamddiffyn.

“Rwyf hefyd yn hyderus y byddant, ar ôl dychwelyd i Gymru, yn llysgenhadon gwych ar gyfer yr achos a gobeithio y bydd y cysylltiadau maent wedi eu creu yn ein galluogi i weithio gyda sefydliadau ieuenctid eraill ledled Ewrop.”

Caiff y cwrs ei drefnu gan ERYCIA, sef ‘The European Youth Information and Counselling Agency.

Rhannu |