Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Awst 2016

Gwireddu breuddwyd Gŵyl i arweinydd wnaeth oresgyn byddardod yn ei blentyndod

MAE un o gerddorion ifanc mwyaf talentog y Deyrnas Unedig a wnaeth oresgyn byddardod yn ei blentyndod wedi gwireddu ei freuddwyd o fod yn arweinydd cerddorfa breswyl mewn gŵyl gerddoriaeth flaenllaw.

Mae Robert Guy, 28 oed, wedi bod yn siarad am ei falchder ar ôl clywed y bydd cerddorfa’r NEW Sinfonia, a sefydlwyd ganddo ef a’i frawd, Jonathan, 26 oed, yn chwarae rhan ganolog yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Un o’r uchafbwyntiau fydd chwarae yn y perfformiad cyntaf erioed o waith newydd gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor.

Yr hyn sy’n rhyfeddol yw nad oedd Robert yn gallu clywed nodyn pan ddechreuodd ei nain ei ddysgu i chwarae’r piano yn dair oed.

Erbyn hyn mae wedi gwella’n llwyr ac yn gwneud ei enw fel arweinydd a chyd-sylfaenydd NEW Sinfonia.

Cenhadaeth Robert a Jonathan, sydd ill dau yn dysgu cerddoriaeth, yw gweithredu fel mentoriaid a gwneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch i bawb yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Anrhydedd
Mae’r brodyr yn dweud mai’r gwahoddiad yma yw’r anrhydedd fwyaf i’r gerddorfa ei chael hyd yma, gyda’r NEW Sinfonia yn cael lle amlwg mewn rhaglen a fydd yn cynnwys ymddangosiad gan Margaret Preece, seren y West End, a pherfformiad cyntaf hir ddisgwyliedig ail symffoni Paul Mealor, y cyfansoddwr Brenhinol enwog, sef Sacred Places.

Mae’n golygu y bydd NEW Sinffonia yn perfformio mewn tair cyngerdd fel rhan o’r 45ain gŵyl, sy’n cael ei chynnal rhwng Medi 17 - Hydref 1, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd. Sacred Places fydd uchafbwynt cyngerdd olaf yr ŵyl  ar 1 Hydref.

Y perfformiad yma fydd yr ail dro i NEW Sinfonia berfformio première o waith gan yr Athro Mealor, a ddaeth yn un o fawrion cerddoriaeth glasurol gyfoes yn dilyn canu ei motét Ubi caritas et amor gan gorau Abaty Westminster a Chapel Brenhinol Ei Mawrhydi ym mhriodas y Tywysog William a Catherine Middleton ym mis Ebrill 2011.

Aeth ymlaen i gael llwyddiant byd-eang, gan gynnwys cyfansoddi ei Symffoni Rhif 1, Passiontide, a berfformiwyd am y tro cyntaf erioed yng Nghymru gan NEW Sinfonia ym mis Mehefin yng nghyngerdd lansiad swyddogol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Yr hyn na fydd cynulleidfaoedd yn ei wybod, yw bod Robert wedi dioddef nam difrifol ar ei glyw, pan ddechreuodd ei nain Doreen Monslow ei ddysgu i chwarae’r piano yn ei chartref yn Llai ger Wrecsam.

Dywedodd: “Ni chafodd y nam ei ddarganfod nes oeddwn i tua thair oed, ond mae’n debyg bod y tiwbiau yn fy nghlustiau wedi cau felly doedden nhw ddim yn gadael y sain drwyddo. Dywedodd y meddygon fy mod i tua 70% yn fyddar.

“Fy nain wnaeth ddysgu ei holl wyrion i chwarae, roedd hi’n athrawes biano, felly roedd yn arferol eistedd i lawr a gwneud hynny. Wnaeth hi ddim fy nhrin i ddim gwahanol i bawb arall.

“Roeddwn yn defnyddio golwg yr allweddi i chwarae, ac mae’n swnio’n rhyfedd efallai, ond roeddwn i’n gallu teimlo’r gerddoriaeth drwy fy esgyrn. Rhoddwyd gromedau yn fy nghlustiau pan oeddwn yn bump oed er mwyn helpu i agor y tiwbiau.”

Dros y blynyddoedd mae clyw Robert wedi gwella’n raddol wrth iddo dyfu’n hŷn, ac wrth i’r tiwbiau yn ei glustiau agor. Ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol yn golygu ei fod wedi dal i fyny’n gyflym gyda’i gyfoedion.

Ychwanegodd: “Mae fy nghlyw yn iawn erbyn hyn, ond rwy’n ddarllenydd gwefusau da iawn sy’n gallu bod yn ddiddorol os bydd rhywun yn sibrwd rhywbeth yn y gerddorfa ac yn meddwl nad wyf yn gallu eu clywed, oherwydd rwy’n gwybod beth maen nhw wedi ei ddweud drwy ddarllen eu gwefusau.”

Dywedodd cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Ann Atkinson: “Rwyf wedi adnabod Robert a Jonathan ers pan oeddent yn fyfyrwyr ifanc, ac yn cymryd rhan yng ngweithdai’r ŵyl. 

“Mae wedi bod yn bleser dilyn eu gyrfaoedd cerddorol.

“Doedden ni ddim yn petruso o gwbl estyn gwahoddiad i NEW Sinfonia ddod yn Gerddorfa Preswyl Gŵyl 2016.

“Ar ôl i’n cynulleidfaoedd eu clywed yn chwarae rwy’n credu y bydd y perfformiadau yn aros yn fyw yn y cof am flynyddoedd i ddod, mae ganddyn nhw egni cerddorol llachar a dyrchafol.

“Y penodiad yma yw’r cam mwyaf arwyddocaol eto wrth i ni hybu uchelgais NEW Sinfonia i fod yn gerddorfa flaenllaw i’r rhanbarth.”

Mae’r ensemble arobryn, a sefydlwyd bum mlynedd yn ôl, yn dibynnu i raddau helaeth ar grantiau a rhoddion er mwyn ariannu ei berfformiadau a dywedodd Jonathan, sy’n chwarae’r  clarinét, eu bod wedi wynebu rhai heriau sylweddol wrth sefydlu’r gerddorfa.

Cefnogaeth
Ond gyda chymorth calonogol eu cyd-gerddorion, eu noddwyr a’u dilynwyr ffyddlon niferus, maent wedi cael boddhad mawr o weld gwireddu eu breuddwyd i weithredu fel mentoriaid i ddoniau ifanc ac i wneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch i bawb yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Meddai: “Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Ann am ei holl gefnogaeth. Mae hi wedi bod yn gefn i ni o’r cychwyn cyntaf ac mae ei mentoriaeth wedi bod yn gonglfaen allweddol i’n gyrfaoedd cerddorol.

“Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn cael ei chydnabod ar draws y Deyrnas Unedig fel dyddiad allweddol yn y calendr cerddorol. Mae’n anrhydedd aruthrol i ni gael ein penodi fel Cerddorfa Preswyl yr ŵyl, ac mae’n gwireddu breuddwyd i mi.”

Mae Robert, sy’n chwaraewr fiola medrus, yn diwtor mewn arwain ym Mhrifysgol Huddersfield ac yn gynharach eleni ychwanegodd bluen arall i’w het pan dderbyniodd wahoddiad i fod yn Arweinydd Preswyl gwadd yng Ngŵyl Gelfyddydau Ysbrydoli ar ynys Jeju yn Ne Corea.

Dywedodd mai nod Jonathan ac yntau wrth sefydlu NEW Sinfonia oedd rhoi cyfle i gerddorion cynhenid o ogledd Cymru i ddod at ei gilydd a chwarae cerddoriaeth wych y byddai pobl wrth eu bodd yn ei chlywed.

Ychwanegodd Robert: “Mae gan Lerpwl y Philharmonic, mae gan Manceinion yr Halle, ac mae gan Newcastle y Northern Sinfonia. Roeddem am gael cerddorfa benodol ar gyfer gogledd ddwyrain Cymru.

“Mae yna bwll mor wych o gerddorion a gafodd eu geni a’u magu yn y rhanbarth yma, er bod llawer wedi symud i ffwrdd erbyn hyn a chael swyddi mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Roeddem am roi rheswm iddynt ddychwelyd, a chael cyfle i ddod at ei gilydd yn rheolaidd a chwarae gyda’i gilydd yn eu cartref cerddorol eu hunain. Dyna sut y dechreuodd NEW Sinfonia. “

Bydd y gerddorfa yn perfformio yn noson agoriadol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ar ddydd Sadwrn, Medi 17, gyda Chôr yr Ŵyl, mewn dathliad o waith y cyfansoddwr John Hosking, a fydd yn cynnwys première rhyngwladol ei Missa pro defunctis. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys campwaith Vaughan Williams, Fantasia on Greensleeves.

Yna, ar Fedi 24, byddant yn cyfeilio i Margaret Preece, seren y West End, sydd wedi cael canmoliaeth  fawr am ei pherfformiadau yn The Sound of Music a The Phantom of the Opera.

Bydd y soprano yn camu i ganol y llwyfan ar gyfer noson o gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan Rodgers a Hammerstein, cewri cerddorol Broadway.

Bydd diweddglo’r ŵyl ar Hydref 1 yn gweld NEW Sinfonia yn ymuno â’r feiolinydd athrylithgar Tamsin Waley-Cohen, mewn rhaglen a fydd yn cynnwys première rhyngwladol Sacred Places Paul Mealor, concerto Mendelssohn i’r feiolin mewn E Leiaf Op 64 a dau arall o ddarnau Vaughan Williams, sef Wasps Overture a The Lark Ascending.

Am ragor o fanylion am NEW Sinfonia ewch i www.newsinfonia.org.uk ac i gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ewch i www.nwimf.com. Mae tocynnau ar gael o Theatr Clwyd, 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy, 01745 582,929.

Rhannu |