Mwy o Newyddion
Gwahodd pobl i gofrestru diddordeb mewn cynlluniau tai fforddiadwy
Mae cyn swyddog strategaeth tai Cyngor Gwynedd, Catrin Roberts wedi ymuno â Grŵp Cynefin fel rheolwraig tai fforddiadwy newydd.
Yn rhinwedd ei rôl newydd, mae Catrin, 40 o ardal Caernarfon, wedi galw ar bobl gaiff eu prisio allan o’r farchnad dai agored, i gysylltu â thîm Grŵp Cynefin i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer eu cynlluniau tai fforddiadwy yn y gogledd.
Grŵp Cynefin sy’n gweinyddu'r gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer pob un o'r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru.
Mae’r tîm yn gwneud hyn trwy asesu ymgeiswyr sy’n awyddus i ddod o hyd i gartref mewn unrhyw un o'r cynlluniau tai fforddiadwy. Maent hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a chynghori pobl am yr opsiynau tai sydd ar gael iddynt.
Yn ôl Catrin, sy'n gweithio o swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Ninbych a Phenygroes: “Heddiw, mae llawer o ddewisiadau ar gyfer pobl all ei chael hi’n anodd i brynu tŷ am werth llawn y farchnad. Mae'r dewisiadau hyn yn cynnwys rhannu perchnogaeth, prynu cartref a rhannu ecwiti.
“Er enghraifft, gyda rhannu ecwiti, efallai y byddwch yn gweld cartref newydd sy’n werth £220,000 ar y farchnad agored, ond mae eich incwm yn golygu mai dim ond ad-daliadau ar forgais o £110,000 y gallwch eu gwneud.
"Yn yr achos hwn, gallech brynu 50 y cant o'r eiddo, tra bod Grŵp Cynefin yn cadw'r 50 y cant o werth yr eiddo sy'n weddill. Byddai'r ganran rydych chi’n ei phrynu felly, yn dibynnu ar eich incwm a gofynion y cynllun.
“Mae'r trefniant yn aros felly hyd nes y byddwch yn penderfynu gwerthu, pa faint bynnag o flynyddoedd yn ddiweddarach y bydd hynny.
"Os byddwch yn penderfynu gwerthu, yna byddai’r eiddo’n cael ei brisio a byddech chi’n derbyn y canran roeddech chi wedi ei gyfrannu’n wreiddiol, yn ddibynnol ar werthiant yr eiddo.
"Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill ac mae'n golygu bod pobl leol yn cael help llaw i gychwyn ar yr ystol eiddo ledled y gogledd.”
Siaradodd Catrin yn ystod ymweliad â chynllun tai fforddiadwy sy'n agosau at gael ei orffen ym Mynytho ger Pwllheli, Gwynedd.
Ychwanegodd: “Mae'r eiddo tair ystafell wely sydd yma, yn nodweddiadol o gartrefi fforddiadwy modern sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer eu gwerthu heddiw.
"Mae’r nodweddion yn cynnwys cegin fodern gyda hob nwy integredig, popty trydan, ffan uwchben y pobty, rhewgell, oergell a pheiriant golchi llestri.
"Mae pob un o’r tai ag ystafelloedd ymolchi i fyny'r grisiau ac mae ystafell gawod ar y llawr isaf.
"Bydd ymgeiswyr am y tai yn gallu rhoi eu stamp eu hunain yma, gan ddewis yr unedau cegin a’r teils ar gyfer y lloriau a’r ystafell ymolchi.”
Mae Grŵp Cynefin hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu cynlluniau tai fforddiadwy newydd yn: Penygroes, Waunfawr, Rhoshirwaun a Llanuwchllyn yng Ngwynedd yn ogystal â chynllun tai newydd yn Rhewl, Sir Ddinbych.
Mae Catrin yn dod â phrofiad helaeth i’w rôl o Gyngor Gwynedd. Bu’n cynnig gwasanaeth tai cefnogol i bobl yng Ngwynedd, rhedeg cynlluniau ar gyfer pobl digartref ac yna bu’n cynorthwyo i ddatblygu strategaeth dai y sir.
Wrth drafod ei swydd newydd yn Grŵp Cynefin, dywedodd: “Mae digon o opsiynau bellach ar gael y tu hwnt i'r model tai cymdeithasol traddodiadol lle rydych yn rhentu eiddo gan gymdeithas dai.
"Gallwn drafod a rhannu gwybodaeth â phobl yn gyflym erbyn hyn ynglŷn â pha fath o ddewisiadau sydd ar gael iddynt.
"Mae rhan-berchnogaeth a rhannu ecwiti yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Maent yn ffordd wych i fod yn berchen ar eich cartref eich hun.
"Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at dai cymdeithasol neu sy’n methu prynu eu cartref eu hunain, mae gennym hefyd gynlluniau rhent canolradd, pan fo person yn talu rhent am y llety ar gyfradd uwch na'r tai cymdeithasol, ond yn is na rhent y farchnad agored.”
Am fanylion pellach, cysylltwch â thîm tai fforddiadwy Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122, ebost taifforddiadwy@grwpcynefin.org neu ewch i'r wefan, www.grwpcynefin.org am wybodaeth bellach.