Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Awst 2016

Mynd â’r Gymraeg i’r byd trwy wersi Skype

Mae dynes fusnes o Wynedd yn torri ffiniau ac yn mynd â’r Gymraeg i’r byd trwy wersi Skype.

Mae gan y busnes, Gwefus, ddysgwyr mewn wyth gwlad wahanol yn cynnwys yr UDA a Sbaen.

Syniad Llinos Griffin, y tiwtor iaith, cyfieithydd a gwneuthurwraig ffilm, o Lanfrothen yw Gwefus.

Mae hi wedi dysgu ieithoedd yn Ffrainc, yr Ariannin a Sbaen ac yn manteisio ar dechnoleg ddigidol er mwyn dysgu ei mamiaith i bobl ledled y byd.

Mae’r dysgwyr yn amrywio o ddechreuwyr pur hyd at siaradwyr rhugl nad oes ganddynt y cyfle i ymarfer yr iaith ble maent yn byw.

Mae’r gwersi poblogaidd yn cynnwys cymysgedd o Gymraeg llafar i sesiynau darllen, ac yn symud ar gyflymder y dysgwr.

Yn y byd modern, mae gwersi fel hyn yn berffaith gan nad oes gan bobl yr amser neu’r cyfle i fynychu gwersi yn eu cymuned leol.

Yn ogystal â dysgu Cymraeg, mae Llinos hefyd yn cynnig gwersi Sbaeneg ac mae ei chyrsiau wedi bod yn llwyddiant gyda 24 dysgwr dros y chwe mis diwethaf.

“Dw i wedi bod wrth fy modd gydag ieithoedd a theithio ers i mi ro’n i’n ddeunaw oed ac wedi byw yn Ffrainc, Iwerddon, Sbaen a’r Ariannin,” meddai Llinos.

“Yn 2014 penderfynais ddod â’m mhrofiad gwaith at ei gilydd i greu fy musnes fy hun a dw i wrth fy modd efo’r ffaith fy mod i’n gallu cynnig gwersi ledled y byd.

"O fewn un diwrnod, diolch i Skype, dw i’n gallu dysgu pobl o Stockholm i Miami, o Fadrid i Melbourne. Dw i hyd yn oed wedi dysgu dysgwr oedd yn Kyrgyzstan ar fusnes!”

Bydd Llinos hefyd yn dysgu sesiwn blasu’r Gymraeg yng Ngŵyl Rhif 6 yn Tim Peaks Diner, a sefydlwyd gan prif ganwr The Charlatans, Tim Burgess yn y Dôm anhygoel.

Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg ymuno a rhoi gwir brofiad Cymreig i’r rhai sy’n mynychu’r ŵyl. Yna bydd Gwefus yn The Good Life Experience ym Mhenarlâg, sir y Fflint.

Ers dechrau’r busnes, mae Gwefus wedi cynhyrchu 10 ffilm fer i wahanol sefydliadau ac unigolion. Mae’r ffilmiau yma wedi helpu i fusnesau a grwpiau cymunedol gyrraedd cynulleidfa newydd. Mae Gwefus wrthi ar hyn o bryd yn cynhyrchu tair ffilm arall.

Rhannu |