Mwy o Newyddion
Yr Urdd yn hyfforddi 100 o bobl ifanc i arwain sesiynau chwaraeon
Am y tro cyntaf erioed eleni, bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal penwythnos hyfforddi i bobl ifanc 16 – 18 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd 100 o bobl ifanc yno dros y penwythnos (2 – 4 Medi) yn cael eu meithrin i fod yn hyfforddwyr yng nghlybiau chwaraeon yr Urdd.
Ar ddiwedd y penwythnos bydd y criw wedi ennill amryw o gymwysterau chwaraeon fydd yn eu galluogi i gynorthwyo a rhedeg sesiynau.
Byddant hefyd wedi dod i adnabod y staff chwaraeon lleol, all gynnig sesiynau iddynt yn eu hardaloedd hwy.
Mae’r penwythnos yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Adran Chwaraeon yr Urdd a Phrifysgol Aberystwyth, sef prif bartner yr adran.
Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd: “Rydym yn hynod falch fod ein partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi galluogi i ni gynnig y penwythnos hwn i bobl ifanc.
"Er mwyn i’n clybiau cymunedol ffynnu, mae’n rhaid recriwtio pobl ifanc yn gyson i gynorthwyo yn ein clybiau.
"Rydym yn hollol ddibynnol ar y criw ifanc, brwdfrydig hyn os am weld ein clybiau yn mynd o nerth i nerth.
“Mae hefyd yn gyfle i ni roi gwybod i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn arweinydd chwaraeon am ein cynllun prentisiaid.
"Bydd gennym 15 prentis newydd yn cychwyn nawr ym mis Medi, gyda phump yn aros am eu hail flwyddyn.”
Mae gan Adran Chwaraeon yr Urdd 239 o glybiau chwaraeon ledled Cymru, gyda 6,127 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn wythnosol yn y flwyddyn diwethaf.
"Mae’r clybiau sy’n cael eu cynnig yn amrywio o glybiau pêl-rwyd a rygbi i gymnasteg ac athletau.
"I weld rhestr o’r hyn sydd yn cael ei gynnig yn eich ardal chi ewch i urdd.cymru/fyardal