Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Awst 2016

Gareth Ffowc Roberts yn gosod posau bach i blant bach

Mae Gareth Ffowc Roberts wedi bod yn gosod posau mathemateg dyddiol ar Twitter ers 2012.

Mae’r posau’n cael eu gosod yn gynnar y bore gan @GarethFfowc o ddydd Llun tan ddydd Gwener – gan ddefnyddio’r hashnod #posydydd yn Gymraeg a #puzzleoftheday yn Saesneg.

Mae’r posau wedi denu sylw cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol ymysg yr hŷn a’r iau fel ei gilydd.

Mewn ymateb i gais gan ysgolion cynradd bydd posau dydd Gwener yn cael eu targedu’n benodol at blant yn yr oedran 6 i 8.

Fel #posbach ar Twitter – #minipuzzle yn Saesneg – byddant yn adnodd i athrawon a rhieni fel ei gilydd ac yn rhoi hwb i’r ddelwedd o fathemateg fel profiad i’w fwynhau.

Bydd y #posbach cyntaf yn cael ei lansio ar gyfri Twitter @GarethFfowc ar ddydd Gwener, 9 Medi, am hanner awr wedi saith y bore, a phob bore Gwener wedi hynny.

Rhannu |