Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2011

Cymru wedi ei chau allan o drafodaethau

Mae Plaid Cymru yn pryderu fod Llywodraeth Cymru wedi ei chau allan o drafodaethau ar iawndal i ffermwyr sy’n dioddef o ganlyniad i e-coli yn yr Almaen.

Sefydlwyd cronfa 210miliwn ewro gan yr Undeb Ewropeaidd, ond tra bu adran DEFRA llywodraeth y DG wedi cysylltu â’r Asiantaeth Taliadau Gwledig sydd yn gweithredu yn Lloegr a chydag Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, datgelwyd na chynhaliwyd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

Mae materion gwledig wedi eu datganoli yn llwyr yng Nghymru. Dadleuodd Plaid Cymru fod hyn yn symptom o’r ffaith fod y llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi israddio materion gwledig i adran dirprwy weinidog.

Nid yw manylion pellach am y gronfa a sut y bydd yn gweithredu wedi eu rhyddhau eto.

Dywedodd Jonathan Edwards AS, a ofynnodd gwestiwn seneddol i adran DEFRA y DG: “Mewn datganiad seneddol ac mewn ymateb i’m cwestiwn, cadarnhaodd DEFRA eu bod yn cynnal trafodaethau gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn Lloegr yn unig, ond ni allasant ddweud eu bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am sut y mae modd gwneud hyn yng Nghymru - na pha gyfran a gawn.

“Nid yw hyn yn ddigon da. Mae’n bwysig ein bod yma o’r cychwyn cyntaf, nid yn dibynnu ar beth ddywed sefydliadau yn Lloegr.

“Fe wyddom oll yr anawsterau mae ffermwyr yn wynebu, ac eto, nid oedd Llafur hyd yn oed wrth y bwrdd i wneud yn sicr y bydd ffermwyr Cymru yn cael chwarae teg oherwydd effeithiau’r e-coli yn ddiweddar.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i ymladd dros hawliau ffermwyr ac am driniaeth briodol.”

Meddai Llyr Huws Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig: “Mae’n rhyfeddol na chafodd Cymru hyd yn oed ei chrybwyll yn y trafodaethau pwysig hyn. Mae hynny yn dangos effaith Llafur yn israddio materion gwledig i safle ail-reng yn eu cabinet.

“Dylai llywodraeth Cymru fod yn cynnal asesiad llawn o’r effaith posibl ar amaethyddiaeth yng Nghymru, a dylai ffermwyr allu gwybod y bydd ganddynt Weinidog yn siarad drostynt - ym Mrwsel, yn San Steffan ac yng Nghaerdydd.

“Os nad yw Gweinidogion Llafur yn bresennol mewn trafodaethau pwysig, mae gan ffermwyr Cymru hawl i ofyn pwy yn union sy’n sefyll dros eu buddiannau.”

Rhannu |