Mwy o Newyddion
Cymru'n llwyddo yn y rhestr gwestai gorau
Mae rhestr ddiweddar prif westywyr y DU o'r 100 gwesty gorau yn cynnwys chwe gwesty o Gymru.
Y gwestai a restrwyd oedd: Neuadd Ynyshir (pleidleisiwyd ef yr ail westy bach gorau yn y DU hefyd); Neuadd Bodysgallen; y Celtic Manor; yr Harbourmaster; Llangoed Hall a The Grove, Narberth.
Mae cael chwe gwesty ar y rhestr fawreddog hon yn dangos safon y gwestai yng Nghymru - yn enwedig gan fod gan Gymru mwy o westai wedi'u rhestru na'r Alban, Dyfnaint a Chernyw.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: "Mae'r ffaith fod hon yn wobr annibynnol y mae prif westywyr y DU yn pleidleisio ar ei gyfer ac yna brif arbenigwyr gwestai a newyddiadurwyr yn ei wirio wedi hynny, yn pwysleisio ansawdd y gwestai yng Nghymru. Mae'n fraint i'r gwestywyr hyn gael eu cydnabod gan eu cyfoedion.
"Rwyf hefyd yn falch i weld bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i gefnogi'r gwestai a restrwyd drwy raglenni buddsoddi cyfalaf a'u bod wedi gwella eu proffil gyda newyddiaduron sy'n ymweld â'r busnesau.
"Mae bod ar y rhestr hon yn wobr go iawn am waith caled ac ymrwymiad y perchnogion a'u staff.
"Rwy'n dymuno'n dda i'r holl fusnesau yn y dyfodol ac rwy'n gobeithio y bydd y dynodiad hwn yn arwain at fwy o gydnabyddiaeth.”
Dywedodd Justin Baird Murray, Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain, Cymru, sy'n cynrychioli gwestai a bwytai yng Nghymru: "Rwy'n llongyfarch ein haelodau a'n cydweithwyr sydd wedi llwyddo i fod ar y rhestr.
"Mae hyn yn gydnabyddiaeth fawr o ymdrechion y prif westywyr i ail-fuddsoddi ac adnewyddu gwestai o safon uchel er mwyn parhau ar frig y sector cystadleuol hwn yn y DU.
"Mae'n dangos cryfderau mawr y diwydiant gwestai a chroeso yng Nghymru ac o fuddsoddiad preifat cryf ar y cyd â chefnogaeth effeithiol gan Lywodraeth Cymru."
Llun: Neuadd Ynyshir