Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Awst 2016

Logo mwya'r byd bore coffi mwya'r byd!

Roedd traeth anghysbell yn Sir Benfro yn gefndir perffaith i Macmillan yng Nghymru i hybu cofrestru ar gyfer Bore Coffi Mwya'r Byd.

Gofynnodd yr elusen, sy'n cefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, i'r artist tir Marc Treanor ddefnyddio ei ddawn greadigol unigryw i greu logo'r bore coffi.

Roedd traeth pellennig Traeth Llyfn rhwng Porthgain ac Abereiddi yn lleoliad delfrydol i Marc greu'r logo enfawr.

Gan roi sylwadau ar y logo sydd yn 30 metr o hyd, dywedodd Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau Macmillan yng Nghymru: “Roeddwn yn credu y byddai'n briodol gwneud y logo mor fawr â'r digwyddiad!

“Y llynedd yng Nghymru, cofrestrodd dros 12,500 o bobl i gynnal bore coffi i Macmillan.

“Rydym yn ddiolchgar bod pobl yn rhoi o'u hamser i gefnogi ein gwaith ac yn mawr obeithio bydd 2016 yr un mor boblogaidd.

“Mae'r arian a godir yn helpu i dalu gweithwyr proffesiynol Macmillan sydd yn gweithio yng Nghymru i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser yn cynnwys ein nyrsys canser arbenigol, cynghorwyr budd-daliadau lles, therapyddion lleferydd, ffisiotherapyddion a deietegwyr.”

Gan siarad am ei waith celf gyda thywod i'r elusen, dywedodd Marc: "'Rwyf wrth fy modd i fod yn gysylltiedig â'r prosiect hwn gan fy mod wedi bod yn dyst i'r cymorth anhygoel y mae Cymorth Canser Macmillan yn ei roi i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser ac wedi gweld pa mor gefnogol y gall hyn fod. 

"Dewisais Draeth Llyfn ger Tyddewi oherwydd ei harddwch trawiadol a'i dywod eang. 

"Yn ogystal â'i ogoniant, mae yna hefyd deimlad ei fod yn cael ei amddiffyn gan y creigiau enfawr sy'n ei amgylchynu.  Mae'n 'draeth llyfn' a dyna pam y mae mor dda ar gyfer y math yma o gelf. 

“Gobeithio bydd logo Bore Coffi Macmillan yn sefyll yn falch ac yn ysblennydd, nes i'r llanw ddod i mewn o leiaf!”

Eleni, cynhelir 26ain Bore Coffi Mwya'r Byd ar benwythnos 30 Medi.  Os hoffech ganfod mwy am gynnal bore coffi i Macmillan, gallwch fynd i'r gwefan i ofyn am Becyn Bore Coffi am ddim yn http://coffee.macmillan.org.uk/. Mae'n cynnwys popeth sydd ei angen i gynnal bore coffi rhagorol.

Am wybodaeth neu gymorth gan Macmillan, ffoniwch ni am ddim ar 0808 808 00 00 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am–8pm) neu ewch i macmillan.org.uk.

Rhannu |