Mwy o Newyddion
Caneuon Dafydd Iwan yn dod â’r oriau yn ôl i bobl â dementia
Mae’r canwr gwerin chwedlonol Dafydd Iwan yn defnyddio grym ei ganeuon cofiadwy er mwyn helpu pobl i ymdopi â dementia.
Er ei fod wedi ymddeol yn swyddogol, mae Dafydd yn ymddangos yn brysurach nag erioed ac yn cynnal sesiynau canu misol yng nghanolfan dementia Bryn Seiont Newydd ar gyrion Caernarfon.
Mae eisoes wedi profi’n boblogaidd iawn gyda phreswylwyr a staff fel ei gilydd, yn y ganolfan lle mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhan o fywyd bob dydd.
Mae Bryn Seiont yn cael ei redeg gan sefydliad Parc Pendine sydd ag ymlyniad pendant i’r celfyddydau, ac sydd wedi penodi cerddor preswyl ac artist preswyl i weithio yno.
Dywedodd Dafydd, sy’n gyn-gynghorydd sir ac yn un o sylfaenwyr cwmni recordiau Sain: “Rwyf wedi ymddeol erbyn hyn, felly rwy’n gallu dewis beth rwyf am ei wneud y dyddiau hyn.
“Mae’r math yma o beth yn ddiddorol iawn oherwydd mae’n golygu y gallaf ddefnyddio’r caneuon sy’n addas i gael ymateb ac rwyf wrth fy modd.
“Gall cân neu ddwy ddeffro atgof ac mae’n syndod faint o’r preswylwyr sy’n gwybod y geiriau i rai o’r caneuon.
“Wrth i ni ddod i adnabod ei gilydd yn well mae mwy a mwy o ganu gyda’n gilydd a mwy o ymateb.
“Rwy’n credu mai un peth sydd wedi bod o ddiddordeb i mi am fy nghaneuon erioed yw sut y gellir eu defnyddio at ddibenion gwahanol.
"Dw i erioed wedi bod yn ddiddanwr yn unig ac rwyf bob amser yn ceisio defnyddio fy nghaneuon i bwrpas.
“Rwyf wrth fy modd yn gweld y graddau y gall caneuon ddeffro diddordeb mewn pobl sy’n cael trafferth oherwydd eu dementia.
“Rwy’n credu ei fod yn ddiddorol iawn fel y gall caneuon dorri drwodd pan fo pethau eraill yn methu."
Mae Dafydd, sy’n byw gerllaw, yn cofio’r hen ysbyty cymunedol, Ysbyty Bryn Seiont, a arferai fod ar y safle.
Dywedodd: “Gwelais yr hen le yn cau ac yna’n cael bywyd newydd fel Bryn Seiont Newydd.
“Un o’r problemau sydd gennym ar hyn o bryd oherwydd y nifer cynyddol o bobl sy’n byw yn hirach yw bod atgofion y bobl hynny’n dechrau pylu, felly mae’n wych cael lle fel hyn ar garreg ein drws sydd hefyd yn gwneud defnydd rhagorol o’r Gymraeg.
“Mae’n ardderchog bod pobl yn gallu aros yn eu cymuned eu hunain. Roedd angen gwirioneddol am le fel hwn yn y rhan hon o’r wlad. Rwy’n falch iawn.”
Yn ôl cerddor preswyl Bryn Seiont, Nia Davies Williams, mae ymweliadau Dafydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol.
Dywedodd: “Mae’n ddyn arbennig iawn. Mae’r preswylwyr yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb ac yn barod iawn i gael sgwrs.
“Unwaith y mae’n stopio canu, mae’r sgyrsiau yn dechrau ac maen nhw i gyd yn awyddus iawn i siarad, i ddweud o ble maen nhw’n dod ac ati.
“Gall Dafydd lunio rhai penillion bach arbennig sy’n defnyddio enwau’r preswylwyr ac mae hynny’n ychwanegu at eu mwynhad.
“Mae’r caneuon fel pe baen nhw’n datgloi rhywbeth yn eu hatgofion. Mae Dafydd wedi bod yn canu ers blynyddoedd felly mae pobl yn gwybod pwy ydi o ac maen nhw’n ei gofio.
“Mae ei ganeuon yn gofiadwy iawn a’r gân olaf heddiw oedd “Yma o Hyd” ac roeddwn yn teimlo fod y geiriau yn addas iawn. Er gwaethaf popeth mae’r preswylwyr yma’n dal i ganu.
“Mi wnaeth un neu ddau ohonynt fynd yn ychydig yn emosiynol. Maen nhw mewn sefyllfa anodd, ond mae caneuon Dafydd yn rhoi hwb i’r galon ac yn codi eu hysbryd.
“Yr hyn sydd wir yn bwysig yw caredigrwydd a chyfoethogi bywydau pobl.”