Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Awst 2016

Plaid Cymru yn llongyfarch myfyrwyr Lefel A

Mae Plaid Cymru heddiw wedi llongyfarch myfyrwyr Lefel A eleni er bod gostyngiad bychan yn y canlyniadau cyffredinol.

Dywedodd Gweiniodg Addysg a Sgiliau cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd: "Fy llongyfarchiadau gwresog i’r sawl sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw, ffrwyth blynyddoedd o waith ac astudio caled, ar waetha’r siom anorfod y bydd rhai yn deimlo.

“Dylem dalu teyrnged hefyd i’n hathrawon am eu rhan hanfodol hwythau.

“Mae’r gostyngiad mewn canlyniadau yn pwysleisio eto yr angen i gyflwyno’r diwygiadau sydd yn cael eu gwneud ar hyn o bryd yng nghyswllt y cwricwlwm, hyfforddi athrawon a datblygu proffesiynol.

"Mae’r rhain oll yn bwysig i sicrhau y bydd system addysg Cymru yn gwella.  

 “Yn ehangach, mae angen i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol gael amrywiaeth o ddewisiadau o ran astudio pellach – boedd hynny’n academaidd, galwedigaethol, neu’n ddysgu seiliedig ar waith – a gwneud yn siwr hefyd fod mwy o swyddi gyda sgiliau ar gael yng Nghymru."

Rhannu |