Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Awst 2016

Hybu gwaith adfywio uchelgeisiol ym Mhorth Tywyn

Mae Cyd-fenter Llanelli yn gwerthu safle gwych yn Harbwr Porth Tywyn er mwyn hybu gwaith adfywio uchelgeisiol yn yr ardal.

Mae'r safle yn 2.8 erw ac yn cael ei hysbysebu ar werth at ddefnydd datblygiad cymysg. Mae'r cynlluniau'n cynnwys siopau, gwesty, bwyty/tafarn a fydd yn sicr yn hwb i ddatblygiadau yn y dyfodol yn ardal Porth Tywyn.

Cynnig adfywio uchelgeisiol sy'n cael ei yrru ymlaen gan Gyd-fenter Morlan Elli yw datblygiad Glannau'r Harbwr ym Mhorth Tywyn.

Mae'r Gyd-fenter yn bartneriaeth flaenllaw rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru ac fe'i lluniwyd yn wreiddiol ym 1990 gan Gyngor Bwrdeistref Llanelli ac Awdurdod Datblygu Cymru.

Mae'r safle ar werth drwy Dendr Anffurfiol a hynny ar gyfer prydles hir. Gwahoddir mynegiannau o ddiddordeb gan ddatblygwyr a lletywyr / gweithredwyr posibl o ran siopau, gwestai, tafarndai/bwytai.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Mae Glannau'r Harbwr yn cynnig cyfuniad perffaith o gyfleoedd datblygu â chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg sy'n cynnwys dau safle datblygu tai, llecyn gwaith a byw a safle hamdden masnachol ynghyd â chyfleoedd ar gyfer siopau, bwyty, tafarn a gwesty.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Bydd datblygu Glannau'r Harbwr ym Mhorth Tywyn yn creu llecyn newydd cyffrous ar lan y môr ar gyfer y dref. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddylunio o ansawdd a chynaliadwyedd a fydd yn gosod safon ar gyfer datblygiadau eraill yn y dyfodol."

Rhannu |