Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn cyhyuddo'r Ceidwadwyr o danseilio Cymdeithas Pêl-Droed Cymru
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig - Andrew RT Davies - wedi cyhuddo Cymdeithas Pêl-Droed Cymru o "genedlaetholdeb pitw" ar ol iddi ddadlau yn erbyn Tîm Prydain Fawr.
Mae'r FAW, a'i chyfoedion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ofni y byddai tîm Prydeinig yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ar dîm pêl-droed Cymru.
Mae safbwynt hirsefydlog y dair cymdeithas pel-droed yn seiliedig ar bryderon dros y broses o gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd ac ar warchod eu statysau pel-droed sy'n dyddio nol i sefydlu'r gem.
Credai Plaid Cymru y dylid rhoi hwb i broffil pêl-droed a chwaraeon eraill benywaidd drwy ffyrdd amgen.
Dywedodd Neil McEvoy Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Chwaraeon: "Chwarae dros Gymru yw'r anrhydedd fwyaf i unrhyw berson Cymreig. Nid oes dim o gwbl yn bitw am chwarae gyda balchder a gyda'r ddraig ar eich crys.
"Nid yw'n syndod nad fel yna mae'r Ceidwadwyr yn ei gweld hi. Maent yn ymddangos yn benderfynol o danseilio Cymdeithas Pêl-Droed Cymru ar bob cyfle, gyda gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mewn ychydig wythnosau.
"Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r FAW.
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu proffil timau chwaraeon benywaidd. Dyna pam ein bod yn ymgyrchu dros i ddarlledwyr gynyddu cyfanswm eu hamser darlledu a chyllido i chwaraeon benywaidd.
"Mae ein timau chwaraeon yn dangos sut y mae Cymru gyda'n gilydd yn gryfach.
"Mae'r ffaith fod y Ceidwadwyr yn ceisio eu tanseilio yn dangos yn union pa mor wan a rhanedig yw eu plaid."