Mwy o Newyddion
Croesawu cwymp mewn diweithdra ond economi Cymru'n parhau i fod yn un cyflog-isel
Mae Adam Price AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw wedi croesawu'r cwymp mewn diweithdra Cymreig ond wedi rhybuddio fod penawdau cadarnhaol yn cuddio gwir stori twf diffyg gweithgarwch economaidd yng Nghymru.
Dywedodd Mr Price fod economi Cymru'n parhau i fod yn un cyflog-isel sy'n golygu fod tlodi mewn-gwaith yn broblem ddifrifol sy'n wynebu nifer o bobl ledled y wlad, a gwnaeth yr achos o blaid buddsoddiad isadeiledd i greu swyddi sgiliau-uchel sy'n talu'n dda.
Dywedodd Adam Price AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnes, yr Economi a Chyllid: "Mae Plaid Cymru yn croesawu'r cwymp mewn diweithdra Cymreig o 4.6% i 4.3% sy'n mynd a ni yn is fyth na chyfartaledd y DG o 4.9%.
"Serch hyn, mae'r penawdau cadarnhaol yn cuddio'r ffaith fod diffyg gweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi tyfu 0.8% - ffigwr sy'n peri pryder ac yn amlygu fod llai o bobl unai mewn gwaith neu'n edrych am waith.
"Y brif broblem sy'n wynebu gweithwyr yng Nghymru yw eu bod wedi eu dal mewn economi cyflog-isel, sy'n golygu fod tlodi mewn-gwaith yn fater difrifol.
"Ers cryn amser mae Plaid Cymru wedi dadlau dros gynnydd bychan mewn buddsoddiad isadeiledd er mwyn symud yr economi Gymreig yn ei blaen drwy greu swyddi sgiliau-uchel sy'n talu'n dda ac i greu twf cynaliadwy.
"Rydym hefyd eisiau gweld cyflog byw go iawn yn cael ei gyflwyno - nid y ffars a fabwysiadwyd gan y Canghellor blaenorol - fel nad yw pobl yn gorfod crafu byw er gwaetha'r ffaith eu bod mewn gwaith."