Mwy o Newyddion
Nathan Gill yn gadael grwp UKIP yn y Bae i fod yn AC annibynnol
Daeth egwyl yr haf a’i broblemau i blaid UKIP. Pan fydd y Cynulliad yn ailafael ynddi y mis nesaf dim ond chwech aelod fydd yn cynrychioli’r blaid.
Mae’r seithfed, Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru, am aros yno fel aelod annibynnol. Ond bydd yn dal i gynrychioli gogledd Cymru yn Senedd Ewrop yn enw’i blaid.
Cododd y sefyllfa ddyrys hon oherwydd fod anniddigrwydd ymhlith aelodau UKIP yn y Bae fod Nathan Gill yn dal i gadw’i hawl i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd.
Credai rhai o’i gyd-aelodau y dylai ymddiswyddo a dim ond cadw’i swydd yn y Cynulliad.
Nid oeddynt o blaid iddo wneud dwy swydd ac roedd bygythiad i’w ddiarddel o’r blaid os nad oedd yn rhoi’r gorau i un o’i swyddi.
Ar ôl bod ar ei wyliau cyhoeddodd Mr Gill ddatganiad yr wythnos hon yn egluro’i benderfyniad.
Meddai: "Wedi llawer o bwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu gadael y grŵp UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan gymryd fy sedd fel aelod annibynnol.
"Mae gormod o amser wedi cael ei wastraffu yn dadlau yn fewnol dros faterion na all gael eu datrys ac mae wedi tynnu ein sylw oddi ar y gwaith rydym wedi cael ein hethol i'w wneud.
"Rwy'n parhau i fod yn arweinydd UKIP yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i wasanaethu fy etholwyr."
Yn syth wedi datganiad Mr Gill dywedodd Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad: "Dwi heb gael cadarnhad swyddogol, mae'n rhaid bod ei lythyr wedi mynd ar goll yn y post.
"Fe wnawn ein gorau i oroesi hebddo. Dydyn ni ddim yn ei weld ryw lawer yn y Cynulliad felly dwi ddim yn credu y gwelwn ni lawer o wahaniaeth."
Mae cryn ymateb wedi bod i’r helynt ynglŷn â Mr Gill ac mae rhai aelodau cyffredin o’r blaid eisoes wedi ymddiswyddo.
Gan mai Neil Hamilton a ddewiswyd yn arweinydd yn y Cynulliad mae pethau wedi chwerwi ers hynny.
Mae rhai o’r farn fod hyn yn adlewyrchu rhaniad yn y blaid yn gyffredinol ac yn dangos fod y rhai sydd o blaid ac yn erbyn Nigel Farage yn ymladd ei gilydd.
Llun: Nathan Gill