Mwy o Newyddion
Annog y cyhoedd i adrodd troseddau yn erbyn bywyd gwyllt i uned arbennig
MAE Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn galw ar aelodau o’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o droseddau yn erbyn bywyd gwyllt gan hysbysu unrhyw ymddygiad amheus i uned arbennig a reolir gan Heddlu Gogledd Cymru.
Fel rhan o Gynllun Heddlu y Senedd, treuliodd yr Aelod Seneddol ddiwrnod â PC Dewi Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru sydd â chyfrifoldeb am ymchwilio i droseddau amaethyddol, bywyd gwyllt ac amgylcheddol ynghyd â lladrad anifeiliad a troseddau wedi eu targedu’n benodol ar gymunedau cefn gwlad.
Dywedodd Mrs Roberts: “Cawsom ein galw i ddigwyddiad ym Mhontllyfni lle roedd mochyn daear wedi marw yn sgil ymosodiad ffiaidd gan yr hyn a ymddangosai fel gwialen ddur ac ymosodiad gan gi. Cafodd yr heddlu eu galw allan yn dilyn galwad gan gwpl lleol a oedd wedi clywed y digwyddiad.
“Yn anffodus, mae’r math yma o greulondeb yn erbyn bywyd gwyllt yn broblem cyffredin ar draws cymunedau gwledig gogledd Cymru.
“Rwy’n cydnabod y gallai pobl fod yn reddfol ofn roi gwybod i’r heddlu am y troseddwyr hyn, ond dyma yw swyddogaeth Tîm Troseddau Cefn Gwlad. Rhaid dwyn y troseddwyr yma i gyfrif, felly rhowch wybod i’r heddlu.
“Byddwch yn hyderus, os ydych yn dod ar draws y fath drosedd neu’n amau fod trosedd o’r fath wedi ei chyflawni – bydd yr heddlu yn siŵr o ymchwilio gan wneud popeth o fewn eu gallu i ddal y rhai sy’n gyfrifol am achosi dioddefaint i’n bywyd gwyllt gan eu dwyn i gyfrif.
“Rwyf felly yn annog y cyhoedd i wneud defnydd o’r gwasanaeth arbenigol yma a chysylltu â’r Tîm Troseddau Gwledig ar 101 os ydynt yn amau ??fod trosedd wedi’i chyflawni. Mae’r tîm yn barod i helpu.”
Ychwanegodd Pc Dewi Evans: “Mae Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o droseddau cefn gwlad ac yn annog unrhywun a fu’n dyst i drosedd i ddod ymlaen i’n helpu i fynd i’r afael â throseddau gwledig gyda’n gilydd.”