Mwy o Newyddion
Llygredd wedi lladd cannoedd o bysgod
MAE Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darganfod ffynhonnell llygredd sydd wedi lladd cannoedd o bysgod yr wythnos diwethaf.
Canfuwyd mwy na 500 o bysgod marw yn yr Afon Cain, llednant o’r Efyrnwy, ar ôl i CNC dderbyn adroddiad o Lansantffraid-ym-Mechain, Powys.
Cadarnhaodd arolygon dros y penwythnos ac ar ddydd Llun mai’r ffynhonnell debygol oedd gwaith draenio gan dirfeddiannwr.
Credir bod pwll bywyd gwyllt ac ardal o wlypdir wedi eu draenio.
Er y byddai’r dŵr yn edrych ac arogli yn normal, mae’n debyg y byddai yn cynnwys lefelau isel iawn o ocsigen toddedig.
Byddai hefyd yn cynnwys maetholion a all ostwng lefelau ocsigen hyd yn oed mwy pan fyddant yn torri i lawr.
Mae’n debygol bod y pysgod yn y Cain wedi mygu pan wnaeth y dŵr yma gymysgu’n sydyn gyda dŵr yn yr afon.
Mae arolwg yn cadarnhau bod chwilod yn yr afon heb gael ei heffeithio – yn ôl pob tebyg oherwydd y gallant oroesi cyfnodau byr o ocsigen isel.
Dywedodd Rob Ireson, uwch swyddog amgylchedd gyda CNC: “Rydym yn eithaf hyderus ein bod wedi dod o hyd i ffynhonnell y llygredd.
“Gall draenio dŵr o bwll i nant ymddangos yn eithaf diniwed – ond mae’n debygol mai dyma a laddodd y rhan fwyaf o’r pysgod ar y darn yma o’r Cain.
“Efallai bydd y dŵr yn edrych ac arogli yn normal – ond gall fod yn angheuol i bysgod.
“Os oes unrhyw un yn meddwl am wneud y math hwn o waith, byddem yn eu hannog i gysylltu â ni i drafod yn gyntaf.
“Gallwn roi cyngor ar sut i wneud hynny mewn ffordd nad yw’n niweidio’r amgylchedd lleol.
“Mae’r Cain, fel ein nentydd ac afonydd eraill, yn gartref i ystod eang o fywyd gwyllt, yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned leol ac yn cyfrannu i’r economi wledig – trwy bysgota, er enghraifft.
“Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y Cain a’n hafonydd eraill.”
Gofynnir i unrhyw un roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol neu droseddau posibl drwy ffonio’r llinell digwyddiadau 24 awr – 0800 80 70 60.