Mwy o Newyddion
Myfyrwyr yn creu cofgolofn o Babi Coch
Chwech o fyfyrwyr gwaith ffarier yn Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn Aberystwyth yw’r unig rai o Gymru sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o brosiect rhyngwladol i greu Cofgolofn o Babi Coch ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Bydd y gofgolofn yn saith medr ac yn pwyso 12 tunnell. Arni bydd un pabi Fflandrys, a gaiff ei amgylchynu gan gae o 2016 o babïau haearn wedi eu creu gan ofyddion a ffariau o wahanol rannu o’r byd.
Mae’r myfyrwyr sydd rhwng 16-18 oed yn rhan o’r gwaith o greu’r gofeb ac y maent yn creu pump pabi fydd yn cael eu defnyddio ar y gofgolofn, a hynny o dan lygad craff y Prif Of, Mr Dai Price, Ymgynghorydd Hyfforddiant Ffariaeth yn HCT.
Caiff y Gofgolofn Babïau ei gorffen o flaen Amgueddfa Meysydd Fflandrys yn Ypres, Gwlad Belg y mis nesaf, a bydd yn cael ei lleoli’n barhaol ger y Fynwent Ryfel yn yr Almaen yn Langemark-Poelkapelle.
Dywedodd y Prif Of, Mr Dai Price: “Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o’r prosiect arbennig yma, ac mae’r bobl ifanc sy’n gweithio ar greu’r pabïau yma wedi cael cyfle unigryw iawn i gynorthwyo a choffau’r gofaint a’r ffariers wnaeth golli eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac rwy’n siŵr y bydd eu cyfraniad yn rhywbeth y byddan nhw’n ei gofio am byth.
"Rydym yn falch iawn i gynrychioli Cymru drwy gyfrannu at ddigwyddiad coffa gwerth chweil.”
Roedd gwaith gofaint a ffariers yn allweddol wrth gynnal a darparu peiriannau rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a lladdwyd llawer ohonynt yn gwasanaethu eu gwledydd.
Er mwyn coffau’r rheiny fu farw, bydd cannoedd o ofaint a ffariers ar draws y byd yn ymgasglu yn Ypres ym mis Medi i ddadorchuddio’r Gofgolofn Babïau.
Fodd bynnag cyn gwneud hynny bydd nifer yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chreu paneli o reiliau unigryw a phabïau fydd yn rhan o’r gofeb.
Caiff pob pabi a wneir ei rifo a chaiff rhif y pabi ei gofnodi ar dystysgrif a roddir i’r myfyrwyr i gofio am eu rhan yn y cynllun.