Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Awst 2016

Awduron bwyd o’r Almaen yn mwynhau taith ‘o’r fferm i’r fforc’

Croesawodd ffermwyr defaid, proseswyr a chogyddion ar draws de-ddwyrain Cymru ddirprwyaeth o awduron bwyd Almaenig yn ddiweddar fel rhan o daith wasg a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) i ddangos yr amgylchedd naturiol godidog lle y mae Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu.

Daeth y newyddiadurwyr ac awduron i Gymru fel rhan o ymgais i gynyddu proffil Cig Oen Cymru yn yr Almaen, Awstria a’r Swistir.

Bu’r Almaen yn farchnad bwysig i gig coch o Gymru, tra fod Cig Oen Cymru yn ddiweddar wedi ennill cwsmeriaid newydd ymhlith clientiaid masnach bwyd o safon uchel yn y Swistir.

Yn ystod o daith cafodd yr awduron, gan gynnwys Willy Faber o gylchgrawn Gastronomie, brofiad Gymreig go iawn gan gynnwys teithiau o gwmpas dwy fferm, arddangosfa goginio cig oen yn Ysgol Goginio Angela Gray ym Mro Morgannwg, ymweliad â chanolfan brosesu Two Sisters ym Merthyr Tudful, a thaith chwisgi Penderyn.

Daeth y daith i derfyn gydag ymweliad â Chris Harrod, y cogydd sydd wedi ennill seren Michelin, ym mwyty’r Whitebrook yn Nrefynwy.

Bu cynrychiolydd HCC yn yr Almaen, Patricia Czerniak, yn allweddol i’r ymgyrch i hyrwyddo Cig Oen Cymru yn yr Almaen.

Meddai: “Mae taith fel hon yn gyfle gwych i awduron i weld amgylchedd naturiol gwych Cymru, i gwrdd â ffermwyr fel Glasnant Morgan a Richard Roderick,  a siarad gyda’r arbenigwr tir glas Charlie Morgan sydd â chymaint o angerdd dros gynhyrchu cig oen o’r safon uchaf.”

Llun: Ymweld ag ysgol goginio Angela Gray, Bro Morgannwg

Rhannu |