Mwy o Newyddion
Llaethdy newydd yn dod â llaeth potel nôl i ogledd orllewin Cymru
Am y tro cyntaf yng ngogledd orllewin Cymru, mae teulu o ffermwyr yn troi'r cloc yn ôl gan fentro i brosesu llaeth potel eu buches odro eu hunain. Mae llaeth potel ffres lleol, Llaethdy Llŷn bellach ar gael i'w werthu i'w cymuned leol ym Mhen Llŷn, i ymwelwyr ac i fusnesau lleol.
Mae Siôn a Nia Jones o Fadryn Isa ym Moduan, Pen Llŷn yn credu bod buddsoddi yn nyfodol eu busnes yn bwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hir dymor eu busnes teuluol yng ngogledd Cymru.
“Mae’n gyfnod cyffrous i ni,” eglura Siôn Jones, “rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad busnes yma ac wedi derbyn cefnogaeth wych gan gwsmeriaid sydd eisiau prynu llefrith ffres lleol o’i hardal leol yma ym Mhen Llŷn.
"Mae’r poteli llaeth plastig wedi dod drwy sustem brosesu ein Huned ym Mhwllheli, ac mae’n rhoi boddhad mawr i ni weld llaeth ein gwartheg ni mewn poteli wedi eu labelu,” eglurodd Siôn.
Un cynnyrch arbennig mae’r teulu yn awyddus i’w gyflwyno fel rhan o’r fenter newydd yw’r llaeth heb ei homogeneiddio. Yn ychwanegol i’r llefrith poblogaidd sydd wedi ei bastiwreiddio a’i homogeneiddio, yr hufen llawn, hanner sgim a sgim yn Llaethdy Llŷn, mae’r llaeth wed iei bastiwreddio ond heb ei homogeneiddio yn cynnig blas o nostalgia’r gorffennol i gwsmeriaid.
Gan nad yw’r moleciwlau o fraster yn y llefrith yn cael ei wasgaru drwy weddill y llaeth, mae’r hufen yn codi i dop y botel, ac felly mae angen ysgwyd y botel cyn tollty.
Roedd llefrith heb ei homogeneiddio yn arferol yn y 1970 a’r 1980au, ac yn ôl y sôn, dyma sy’n creu’r coffi llaeth gorau.
“Rhentu ein fferm, Madryn Isa ydym ni gan Gyngor Gwynedd ac rydyn ni’n rhentu mwy o dir yn breifat i lawr y lôn.
"Rydyn ni’n godro 80 o wartheg Holstein Freisians yma ym Moduan, ac rydyn ni’n mwynhau gofalu am ein hanifeiliaid.
"Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael gan ein cymuned a’r gymuned fusnes.
"Mae’n anodd credu ein bod ni a ffermydd o’n cwmpas yn gweithio’n hynod o galed i gynhyrchu llaeth, ond nad oes llaeth lleol ar gael yn lleol, fel roedd hi ers talwm, i’w brynu,” meddai Siôn.
Mae deuddeg mis ers i’r teulu, gyda chefnogaeth y plant, Ela, 18; Tomos, 16 ac Anna, 13 gychwyn y dasg o ymchwilio a holi am gyngor ynglŷn â phrosesu eu llaeth eu hunain.
Gyda chefnogaeth Cywain, cynllun wedi ei deilwra gan Menter a Busnes, mae’r teulu wedi derbyn cyngor a chefnogaeth i lansio Llaethdy Llŷn gan ddatblygu’r elfen brosesu o’i busnes newydd ym Mhen Llŷn.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Nia Môn o Cywain am ei harweiniad a’i harbenigedd wrth i ni ddatblygu’r busnes newydd,” eglura’r ffarmwraig Nia Jones, sydd yn godro ar y fferm ac yn gweithio’n rhan amser ym Mhlas-Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog.
“Mae Cywain wedi bod yn wych, a fydden ni fyth wedi cyrraedd lle rydyn ni i’n busnes bach teuluol, heb eu cefnogaeth,” eglura Nia Jones.
Cynorthwyodd Cywain y teulu gan gynghori ar frandio, labelu bwyd, iechyd a hylendid, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos â Chanolfan Dechnoleg Fwyd Llangefni yng Ngholeg Menai hefyd, lle rydyn ni wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau newydd - y pastiwreiddiwr, homogeneiddiwr a’r gwahanwr rydyn ni’n eu defnyddio i brosesu’r llaeth yn barod ar gyfer ei werthu,” eglura Siôn.
Mae uned arbennig wedi ei haddasu ar rent ym Mhwllheli i brosesu’r llaeth ac mae dau aelod o staff newydd, dau yn lleol, hefyd yn ymuno â’r tîm. Bydd Hufenfa De Arfon yn parhau i gymryd llefrith Madryn Isa, ond yn ei anterth, y gobaith yw y bydd bron i 10,000 o beintiau o lefrith yn cael eu cynhyrchu yn wythnosol o’r uned ym Mhwllheli.
“Mae’r ffigwr yna yn bell iawn o’n cyrraedd ar y funud,” eglura Siôn, “ond mae’r arwyddion yn bositif gan bod nifer o fusnesau lleol a chymunedau wedi addo cefnogaeth i ni.
"Mae’n fy ngwylltio bod pobl o Ben Llŷn yn tollti llaeth ar eu brecwast yn y bore a bod y peint yna wedi teithio hyd a lled ffyrdd Lloegr gan groesi Clawdd Offa i Gymru er mwyn cyrraedd Pen Llŷn.
"Dydi hi’n gwneud dim synnwyr o gwbl, o feddwl bod ffermwyr llaeth Cymru’n gweithio’n galed bob dydd o’r wythnos i gynhyrchu llaeth ffres o safon.”
Wedi i’r holl hyfforddi staff ddod i ben, derbyniodd y teulu eu rhif unigryw Y Deyrnas Gyfunol sydd ei angen i brosesu eu llaeth eu hunain.
Gyda’r llaeth bellach ar gael i’w brynu mewn siopau ac mewn cartrefi gwelir y brand proffesiynol a gynlluniwyd gan Dylunio Gringo, Penygroes ar y poteli 500ml, 1 litr a 2 litr ac ar y cerbydau sy’n hyrwyddo'r llaeth Llŷn newydd.
Mae’r brand wedi ei selio ar stamp menyn gwreiddiol Madryn Isa fel yr eglura Nia Jones: “Mae’n rhan o dreftadaeth y fferm, ac mae’n dod ag ymdeimlad amaethyddol traddodiadol ein cynnyrch i’r amlwg.
"Er ein bod ni’n mynd nôl i’r hen ddyddiau da pan oedd llefrith yn cael ei gynhyrchu’n lleol, rydyn ni’n dod â’r broses yn ôl i’r unfed ganrif ar hugain.
"Mae’r darlun ar y stamp menyn yn dangos llun o fuwch odro, glaswellt a cheirch sef y bwyd naturiol mae’r gwartheg yn parhau i’w fwyta yma, ond mae hefyd yn cyfeirio at yr afon leol, yr Afon Geirch, sy’n amgylchynu Madryn Isa,” eglura Nia Jones.
Dylai cwsmeriaid sydd eisiau prynu llefrith Llaethdy Llŷn, ymweld â’r wefan www.llaethdyllyn.com am wybodaeth bellach. I glywed mwy am gynllun Cywain, Menter a Busnes, ewch i www.cywain.com