Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Awst 2016

Cyhuddo Cyngor Gwynedd o fethu â chynnal asesiadau trwyadl ac annibynnol er mwyn mesur effeithiau tymor hir cau ysgolion gwledig ar gymunedau Cymraeg

Mae’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog  yn honni fod Cyngor Gwynedd o dan reolaeth Plaid Cymru wedi methu â chynnal asesiadau trwyadl ac annibynnol er mwyn mesur effeithiau tymor hir cau ysgolion gwledig ar gymunedau Cymraeg.    

“Dylai’r ystyriaeth hwn fod yn flaenllaw ym meddyliau’r prif gynghgorwyr a swyddogion wrth drafod dyfodol ysgol,” meddai’r Cynghorydd Gruffydd o Lais Gwynedd.  

“Ond er mawr cywilydd methwyd â dirnad canlyniadau cau ysgol ar y gymuned leol.”

Mewn penderfyniad arwyddocaol yn yr Uchel Lys yr wythnos ddiwethaf beirniadwyd Cyngor Sir Ddinbych yn chwyrn am fethu ymgynghori’n ddigonol ynglŷn â chau dwy ysgol wledig yn Nyffryn Clwyd drwy beidio â hysbysu’r trigolion lleol o’r “effaith posibl ar y Gymraeg a’r gymuned”.  Roedd y barnwyr o’r farn fod hyn yn “anghyfreithlon ac annoeth”.

“Er nad yw’r amgylchiadau’n union yr un fath ni wnaed hyn yn ystod ymgynghoriadau ynglŷn â dyfodol ysgolion gwledig Gwynedd ychwaith,” ychwanegodd y Cynghorydd Gruffydd.

“Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth gan Gyngor Gwynedd i hyfywdra cymunedau sy’n asgwrn cefn i’r Gymraeg a rôl ganolog yr ysgol wledig yn nyfodol y cymunedau maent yn eu gwasanaethu.”

Mae Strategaeth Iaith Cyngor Gwynedd ei hun yn amcanu at sicrhau cynnydd o 5% yng nghanran y boblogaeth sy’n gallu siarad y Gymraeg erbyn 2021 ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at gynyddu nifer sy’n siarad yt iaith i filiwn o bobl erbyn 2050.

“Does gan yr un ohonynt y siawns leiaf o lwyddo heb ymgyrch wleidyddol, cymdeithasol ac economaidd ar y cyd i warchod a hybu cymunedau Cymraeg ei hiaith,” meddai Cyng Gruffydd.    

“Yr ysgol yw calon y cymunedau hyn yn ogystal â darparu addysg o’r radd flaenaf – a gwerth am arian.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Yma yng Ngwynedd yr ydym yn hyrwyddo addysg o ansawdd fel bod plant a phobl ifanc y sir yn cyflawni’r safonau uchaf er mwyn cynnal yr iaith, diwylliant a’r economi yn lleol.

"Fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Siarter Iaith Gymraeg ysgolion Gwynedd er mwyn lledaenu’r arferion da hyn ledled Cymru.

“Serch hynny, fel ym mhob sir yng Nghymru, mae gan Wynedd ei heriau ym maes arweinyddiaeth yn ein hysgolion.

"Mae Estyn, ac arbenigwyr eraill ym maes addysg, yn adrodd mai arweinyddiaeth dda yw’r prif ffactor sy’n hyrwyddo addysg o’r ansawdd orau.

“Mae penaethiaid ein hysgolion wedi adnabod mai’r her fwyaf sy’n wynebu’r sector cynradd yw diffyg amser digonol i arwain ac athrawon mewn ysgolion bach iawn sy’n gorfod addysgu ystod eang o ddisgyblion o wahanol oedrannau a galluoedd yn yr un dosbarth.

"Mewn rhai achosion, mae athrawon mewn ysgolion cynradd bach yn addysgu tri neu bedwar o grwpiau blwyddyn mewn un dosbarth ac mae’n anodd sicrhau bod y gwaith yn bodloni anghenion pob disgybl oherwydd yr ystod eang o allu a all fodoli ar draws pedair blynedd o oedran dysgu.

"Yn yr un modd, yn y sector uwchradd, mae amser digyswllt uwch reolwyr a rheolwyr canol yn brin iawn ac yn gynyddol mae athrawon yn gorfod dysgu ail a thrydydd pwnc sy’n gallu bod y tu allan i’w maes arbenigedd.

“Yn ystod tymor yr hydref, byddwn yn parhau â’r ddeialog am amodau arweinyddiaeth ac addysgu.

"Ein bwriad erbyn diwedd y cyfnod hwn yw cael cyfeiriad clir a fydd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio ar addysgu a chodi safonau ein disgyblion, a chanfod ffyrdd o ysgafnhau baich rheolaeth a gweinyddu ysgolion er mwyn galluogi athrawon i ganolbwyntio yn bennaf ar ddysgu a gwell amodau i benaethiaid i arwain addysg.

“Mae’r her ym maes arweinyddiaeth ac addysgu yn rhywbeth na ellir ei anwybyddu, ac mae angen i ni wynebu hynny os ydym am ddiogelu ansawdd addysg, gan gynnwys addysg wledig.

"Ochr yn ochr â hynny, byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein hysgolion, ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru byddwn yn cynnig arweiniad yn lleol ac i siroedd eraill Cymru yn y maes pwysig hwn.

"Fel Cyngor rydym yn gwbl hyderus yng nghywirdeb y prosesau a ddilynir wrth adrefnu addysg mewn unrhyw sefyllfa.

"Rydym yn dilyn yr holl gamau statudol sy’n angenrheidiol gan gynnwys asesiadau ardrawiad iaith. Mae unrhyw awgrym i’r gwrthwyneb yn gwbl ddi-sail.”

  Llun: Cyng Alwyn Gruffydd

Rhannu |